Marwolaethau Covid ar ei lefel isaf ers naw mis

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ward Covid

Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid yng Nghymru wedi disgyn i'w lefel isaf ers naw mis, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 20 Mai, bu farw 16 o bobl yng Nghymru gyda Covid-19 yn cael ei roi fel un o'r achosion ar y dystysgrif marwolaeth.

Cafodd chwe marwolaeth eu cofnodi ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn wyth sir: Blaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro, a Bro Morgannwg.

Mae hyn yn dod â chyfanswm y marwolaethau'n ymwneud â Covid i 10,328 ers dechrau'r pandemig.

Un claf Covid i'r ysbyty mewn diwrnod

Ddydd Llun, fe aeth un claf oedd wedi profi'n bositif am Covid i'r ysbyty yng Nghymru - a hynny am ond yr ail dro ers dechrau'r pandemig.

Roedd y claf yn ardal Caerdydd a'r Fro, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Y tro ddiwethaf i un claf yn unig fynd i'r ysbyty hefo Covid mewn diwrnod oedd yn hwyr ym mis Mehefin 2021.