Cofnodi 45 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Cofnodwyd 45 o farwolaethau yn ymwneud â Covid yng Nghymru yn ôl ffigyrau wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r ffigwr hyd at 6 Mai yn llai na'r 67 a gofnodwyd yn yr wythnos flaenorol.

Mae'r achosion yma'n golygu marwolaethau ble mae Covid yn cael ei gofnodi fel ffactor ar y dystysgrif farwolaeth.

Cofrestrwyd 12 marwolaeth yr un ym myrddau iechyd Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr.

Marwolaethau'n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru. Cyfanswm y marwolaethau yn ôl diwrnod.  Marwolaethau hyd at 6 Mai.

Ni chafodd unrhyw farwolaethau eu cofrestru yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion a Phowys.

Mae hyn yn dod â chyfanswm y marwolaethau'n ymwneud â Covid i 10,257 ers dechrau'r pandemig.

Er bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid yn uwch ar hyn o bryd na'r un adeg yn 2021, mae'r cyfanswm ar gyfer 2022 o gwmpas traean y nifer a welwyd erbyn diwedd Ebrill 2021.

Pynciau cysylltiedig