Rhybudd i gadw draw o Fae Ceredigion oherwydd tanio byw
- Cyhoeddwyd
Bydd llongau o bob math yn gorfod cadw draw o Fae Ceredigion yn ystod y dydd dros y pythefnos nesaf wrth i ymarferion tanio byw gael eu cynnal ym maes Tanio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aber-porth.
Fe fydd pob cwch neu long yn cael eu cynghori i gadw draw o'r ardal ar y môr rhwng 09:30 a 17:00 rhwng 6 a 10 Mehefin, a 13 a 15 Mehefin.
Mewn llythyr agored mae Qinetiq, sydd yn rhedeg y safle yn Aber-porth, yn dweud bod rhaid cadw'r ardal yn glir am "resymau diogelwch ac fe fydd cydweithrediad pawb yn cael ei werthfawrogi".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu: "Fe fydd yr Awyrlu yn cynnal ymarferiad yn ardal Aber-porth am wyth diwrnod rhwng 6 a 15 Mehefin.
"Mae'r Awyrlu yn defnyddio efelychwyr a hyfforddiant eraill i leihau effaith, ond mae'n ofynnol hefyd i gynnal ymarferion tanio byw o'r math yma."
Mae "Ardal Berygl" Aber-porth yn cwmpasu rhyw 6,500 cilomedr sgwâr, ac fe sefydlwyd ym Mae Ceredigion yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe fydd cyhoeddiadau yn cael eu gwneud ar radio VHF cyn ac ar ddiwedd y gweithgarwch.