Gall miliynau elwa yn sgil ymchwil i ganser y fron
- Cyhoeddwyd
Fe allai miliynau o gleifion elwa wedi "canlyniadau rhyfeddol" ymchwil i driniaeth newydd ar gyfer menywod sydd â chanser y fron wedi lledaenu.
Fe gafodd yr astudiaeth ei harwain yng Nghymru, ac edrychodd yn benodol ar roi cyffur newydd yn ogystal â thriniaeth hormon arferol.
Dangosodd yr ymchwil y gall menywod sydd â chamgymeriad genetig cyffredin yn eu canser ddisgwyl byw bron ddwywaith yn hirach wedi cael y cyffur o'i gymharu â'r rhai gafodd y driniaeth arferol yn unig.
Mae'r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno yng nghynhadledd ganser fwyaf y byd yn Chicago ac wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Lancet Oncology.
Dywedodd cyd-arweinydd yr ymchwil, yr Athro Rob Jones o Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd: "Does 'na'r un treial o'r blaen wedi bod mor arwyddocaol - mae'n rhyfeddol.
"Pan fydd claf yn cael diagnosis o ganser metastatig [canser sydd wedi lledu]... y cwestiwn pwysicaf iddyn nhw yw: 'Pa mor hir sy' gen i ar ôl? Ydw i'n mynd i weld fy wyrion a'm hwyresau'n tyfu i fyny?'
"Dyw'r driniaeth yma ddim yn cynnig iachâd - ond mae'n cynnig amser ychwanegol pwysig iawn i gleifion i dreulio gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau."
Mae'r treial o'r enw FAKTION wedi bod yn asesu i ba raddau mae'r cyffur newydd capivasertib ar y cyd â thriniaeth hormon arferol yn ymestyn bywydau unigolion sydd â chanser y fron nad oes modd ei wella.
Mae cam diweddaraf yr ymchwil wedi bod yn ystyried hefyd i ba raddau y gallai cod genetig y tiwmor ddylanwadu ar hyn.
Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai 55% o gleifion â mwtaniad neu gamgymeriad cyffredin yn eu canser ddisgwyl byw am 39 mis ar ôl cael y cyffur - hynny o'i gymharu ag 20 mis heb y cyffur.
Dangosodd y treial hefyd nad oedd yna fantais sylweddol i fenywod heb y mwtaniad, sy'n golygu y gellir targedu'r therapi at y rhai sydd fwyaf tebygol o elwa.
O ystyried mai canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin, gallai'r therapi gael ei gyflwyno ledled y byd ac fe allai miliynau elwa.
"Gyda chleifion canser yr hyn ry'n ni am wneud yw rhoi'r driniaeth orau iddyn nhw fel unigolion," meddai'r Athro Jones.
"Rydym yn symud fwyfwy tuag at ddehongli DNA genomeg ac yn gweithio allan pa gleifion fydd yn elwa o ba driniaeth.
"Mae'r treial hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddewis y cleifion hynny, ac mae'r 55% o fenywod a welodd fantais yn cyfateb i ddegau o filiynau o bobl ledled y byd."
Mae'r ymchwil ddiweddaraf yn adeiladu ar ganlyniadau cychwynnol a gafodd eu cyhoeddi yn 2019.
Bellach mae treial clinigol mawr (Cam 3) wedi dechrau sy'n cynnwys tua 800 o gleifion mewn sawl gwlad.
Os yn llwyddiannus yna gallai capivasertib, cyffur gafodd ei ddatblygu gan AstraZeneca, ddod yn driniaeth gyffredin.
'O gymorth i bobl eraill'
Cafodd y gyn-bostfeistres Farhana Badat, 59, o Gasnewydd wybod bod ganddi ganser y fron ar ôl mynd i gael ei mamogram cyntaf yn 50 oed.
Fe gafodd lawdriniaeth i dynnu rhan o'i bron ac yn ddiweddarach driniaeth hormon.
Ond yn 2016 cafodd wybod bod y canser wedi lledu i esgyrn ei hasennau a'i hasgwrn cefn.
"Roeddwn i'n meddwl fod y canser wedi cael ei reoli ac fy mod i'n symud 'mlaen," meddai.
"Ond yn anffodus nid fel hynna oedd hi. Fe gafodd hynny effaith fawr ar y teulu oedd yn teimlo nad oedd unrhyw beth y gallen nhw ei wneud... Roedd yn gyfnod emosiynol iawn i ni i gyd."
Yn fuan wedyn fe gafodd Farhana wahoddiad i gymryd rhan yn y treial clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
"Penderfynais ddweud ie oherwydd roeddwn i jyst ar y pryd eisiau gweld a oedd yn gweithio!"
Mae'n dweud ei bod yn falch o fod wedi cymryd rhan mewn ymchwil a allai helpu i ymestyn bywydau pobl eraill sydd â chanser y fron.
"Mae'n gwneud i chi deimlo'n dda iawn - dydw i ddim yn rhedwr gwych, dydw i ddim yn bobydd gwych ac rydych chi'n meddwl sut ydych chi'n cefnogi'r bobl sydd wedi eich cefnogi mor dda?
"Dyma un ffordd y galla i eu cefnogi nhw ac rwy'n gobeithio y bydd y cyffur ar gael yn y pendraw ar y gwasanaeth iechyd.
"Mae fy ŵyr hynaf yn saith oed a'r ieuengaf yn 10 mis oed. Rwyf wedi mwynhau pob eiliad gyda nhw... mae'n rhaid i chi fyw bob eiliad cystal ag y gallwch."
Dehongli cod genetig canser
Mae'r ymchwil yn adlewyrchu ymdrechion arbenigwyr i ddeall sut y gall cod genetig canser ddylanwadu ar ba driniaethau a allai weithio orau.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU i brofi samplau o feinwe cleifion sy'n gael diagnosis o ganser wedi lledaenu.
Drwy ddehongli'r camgymeriadau genetig (mwtanau), gall helpu penderfynu sut y gallai'r canser ddatblygu a pha driniaethau a allai weithio orau, sy'n golygu y gellir teilwra neu bersonoli therapi yn gynyddol ar gyfer yr unigolyn.
Dywedodd Dr Helen Roberts, pennaeth Gwasanaeth Tiwmor Solid yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS): "Nid un cyffur o reidrwydd yw'r driniaeth orau i bob claf sydd â math penodol o ganser, felly ry'n ni'n edrych ar sut y gall cod genetig ddylanwadu ar hyn.
"Mae'n gallu arbed arian hefyd. Rydyn ni eisiau defnyddio cyffuriau lle maen nhw'n mynd i weithio... mae'n fuddugoliaeth ddwbl mewn gwirionedd.
"Mae gennym y dechnoleg a'r profiad nawr i benderfynu sut i drin pobl fel unigolion a meddwl beth sy'n mynd i weithio orau i chi."
'Cymru ar y llwyfan rhyngwladol'
Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, cafodd dros 8,300 (8,353) o fenywod yng Nghymru ddiagnosis o ganser y fron dros gyfnod o dair blynedd (2016-2018).
Mae hyn yn cyfateb i 176 o achosion ymhob 100,000 o fenywod - cynnydd ers 2003.
O gael diagnosis cynnar, bydd bron pob unigolyn (98%) â chanser y fron yn goroesi am bum mlynedd neu ragor, o'i gymharu â thua un o bob pedwar (26%) gaiff ddiagnosis hwyr.
Dywedodd Dr Eve Gallop-Evans fod yr ymchwil yn rhoi Canolfan Ganser Felindre a Chymru ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae'r canlyniadau yma yn anhygoel," meddai.
"Ry'n ni wir yn gwerthfawrogi'r cleifion sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y treial yma a gobeithio yn y pendraw y bydd cleifion yn rhyngwladol yn manteisio ar hyn.
"Mae'r datblygiadau mor gyffrous."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018