Cymro'n euog o ddynladdiad ar ynys Ibiza yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro wedi'i gael yn euog o ddynladdiad dyn ar ynys Ibiza yn Sbaen bedair blynedd yn ôl.
Roedd Mitchell Loveridge, 26 oed o Lwynypia yn Rhondda Cynon Taf, wedi'i gyhuddo o lofruddio Harry Kingsland o Solihull ar yr ynys fis Gorffennaf 2018.
Fei'i cafwyd yn ddieuog o'r cyhuddiad hwnnw ddydd Gwener, ond yn euog o ddynladdiad.
Mae Loveridge yn wynebu dedfryd o rhwng un a phedair blynedd o garchar.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth cyn iddo gael ei ddedfrydu ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Taro i'r llawr gydag un ergyd
Yn ystod ei amddiffyniad yn yr achos yn Palma dywedodd Loveridge mai amddiffyn ei hun yr oedd yn ei wneud pan darodd Mr Kingsland, 21, i'r llawr gydag un ergyd ar 18 Gorffennaf 2018.
Roedd Loveridge yn mynnu fod Mr Kingsland wedi ymosod arno pan oedd y ddau yn feddw mewn fflat yn ardal barti San Antonio.
Roedd yr erlyniad yn dweud fod Loveridge wedi parhau i daro Mr Kingsland pan oedd ar y llawr yn anymwybodol.
Roedd Mr Kingsland yn arfer bod yn bencampwr Tae Kwon Do y byd pan yn 10 oed, ac yn gweithio fel hyrwyddwr clybiau yn Ibiza pan fu farw.