Rhybudd am stormydd i'r canolbarth a'r de ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai stormydd o daranau daro rhannau helaeth o ganolbarth a de Cymru ddydd Sul, gan achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn sydd mewn grym rhwng 13:00 a hanner nos.
Maen nhw wedi diweddaru'r rhybudd am 11:30 ddydd Sul.
Roedd y rhybudd blaenorol mewn grym rhwng 00:00 a 18:00 ar gyfer pob sir yng Nghymru oni bai am Ynys Môn.
Yn ôl yr arbenigwyr fe allai llifogydd dwfn a dŵr sy'n llifo'n gyflym beryglu bywydau ac achosi difrod i eiddo.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod yna bosibilrwydd o oedi neu ohirio teithiau bws a thrên yn sgil llifogydd a mellt.
Mae gwaith clirio wedi parhau yn nhref Cricieth wedi i oriau o law trwm achosi llifogydd yno ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022