Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-2 Yr Iseldiroedd

  • Cyhoeddwyd
Joe Rodon a Matthijs de LigtFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Rodon a Matthijs de Ligt yn cystadlu am y bêl yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher

Dod i ben wnaeth rhediad Cymru o 19 gêm gartref heb golli wrth i'r Iseldiroedd adael Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r pwyntiau.

Roedd gôl hwyr Norrington-Davies yn ymddangos fel fyddai'n ddigon i sicrhau gêm gyfartal werthfawr i Gymru.

Ond gôl hwyrach i'r ymwelwyr sicrhaodd y fuddugoliaeth i dîm Louis Van Gaal.

Roedd sawl newid i'r tîm drechodd Wcráin brynhawn Sul, gan gynnwys Danny Ward yn cymryd lle Hennessey yn y gôl.

Gyda Chymru'n chael hi'n anodd i sicrhau meddiant yn y munudau agoriadol, roedd yr ymwelwyr yn edrych yn beryg ond heb greu cyfleon o bwys.

Ond tyfodd Cymru fewn i'r gêm wrth i'r hanner fynd yn ei flaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ddoth Danny Ward i fewn yn lle Wayne Hennessey yn y gôl

Wedi 25 munud roedd cic rydd Harry Wilson yn ddigon i orfodi arbediad gan Flekken, gyda'r gôl geidwad hefyd yn gorfod arbed ymdrech gan Dan James brin funudau'n ddiweddarach.

Cafodd yr Iseldiroedd hanner cyfleon erbyn ddiwedd yr hanner, ond heb drafferthu Ward - sy'n wynebu brwydr gyda Hennessey i sicrhau y crys rhif 1 ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe ddoth cyfle cyntaf yr ail hanner gyda chic rhydd Teun Koopmeiners yn mynd pasio postyn Adam Davies, a ddoth ymlaen yn lle Ward ar yr egwyl.

Ond funud yn ddiweddarach bu i ergyd bwerus Koopmeiners guro Davies o du allan y cwrt cosbi - a fydd efallai yn siomedig iddo beidio llwyddo i'w chadw allan, yn ogystal a Harry Wilson oherwydd ei fethiant i'w gau i lawr mewn amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Iseldiroedd yn dathlu gôl Koopmeiners wedi 50 munud o chwarae

Dod i ben wnaeth gêm Joe Morrell oherwydd anaf wedi 58 munud, gyda Rubin Colwill yn dod ymlaen yn ei le ac ychwanegu taldra i'r llinell flaen.

Ond heblaw am rediad egnïol gan Daniel James, mewn gwirionedd ni lwyddodd y gôl i sbarduno'r tîm cartref gyda'r Iseldiroedd yn edrych yn gyfforddus.

Er deffrowyd y dorf wrth i Gareth Bale ddod ymlaen yn lle James gyda 13 munud yn weddill, methu a chreu cyfle o bwys wnaeth y tîm cartref wrth i'r munudau redeg allan.

Ond gyda 92 munud a y cloc gwnaeth croesiad Connor Roberts ddarganfod pen Rhys Norrington-Davies wrth i'r gwr o Aberystwyth rwydo'i gôl gyntaf dros ei wlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Norrington-Davies yn dathlu'i gôl - ond nid dyna oedd ei diwedd hi

Er hynny, eiliadau yn ddiweddarach fe bwysodd yr Iseldiroedd i fyny'r car gyda chroesiad Malacia yn agor cyfle i Wout Weghorst, gydag ymosodwr Burnley yn penio'n gelfydd i unwaith eto fynd ar y blaen, gan adael dim amser i Gymru ddod yn ôl.

Bydd tîm Robert Page nawr yn croesawu Gwlad Belg i Gaerdydd nos Sadwrn, wedi iddynt guro Gwlad Pwyl 6-1 yng ngem arall y grŵp nos Fercher.