Cymru'n 'barod am gêm anodd' yn erbyn Yr Iseldiroedd
- Cyhoeddwyd
Bydd meddyliau'r tîm cenedlaethol yn gorfod symud ymlaen o orfoledd cyrraedd Cwpan y Byd wrth wynebu'r Iseldiroedd nos Fercher.
Yn dilyn y golled yng ngêm agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd yng Ngwlad Pwyl wythnos yn ôl, tîm Louis van Gaal bydd yr ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond brin dridiau wedi perfformiad arwrol y tîm yn erbyn Wcráin i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, y disgwyl yw bydd wynebau newydd ymysg yr 11 a fydd yn cychwyn y gêm.
Er hyn, mae tîm hyfforddi Cymru wedi cydnabod y sialens wrth wynebu detholion rhif 10 y byd yn ôl FIFA.
'Bydd un neu ddau o newidiadau'
Yn ôl y cyn-ymosodwr rhyngwladol Malcolm Allen, sydd yn lais cyfarwydd yn sylwebu ar gemau pêl-droed Cymru, y disgwyl yw bydd rhai newidiadau i'r tîm a ddechreuodd yn erbyn Wcráin brynhawn Sul.
Er hynny, pwysleisiodd na fyddai'r tîm cenedlaethol eisiau colli'r record gartref presennol o 17 gêm heb golled yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd ar bodlediad BBC Radio Cymru, Y Coridor Ansicrwydd: "Dwi'n meddwl ella doith Joe Morrell i mewn yn ôl, dwi'n meddwl hefyd ddoith Harry Wilson yn ôl i fewn.
"Dwi'n meddwl neith Brennan Johnson yn bendant ddechra', felly ia bydd un neu ddau o newidiadau ond dwi'm yn meddwl bydd llwyth a llwyth o newidiadau."
'Torchi ein llewys'
Wrth edrych ymlaen at y gêm dywedodd rheolwr Cymru, Robert Page ei fod yn llawn edmygedd o record rheolwr Yr Iseldiroedd, Louis Van Gaal.
"Byddwn yn torchi ein llewys, byddwn yn rhoi cynnig arni a bydd tîm yn cael ei ddewis i roi cynnig arni," meddai.
"Rydyn ni eisiau ennill gemau felly mae'n fater o gael y cydbwysedd yn iawn. Dydw i ddim eisiau bod yn y gystadleuaeth hon i wneud y rhifau i fyny ac ond agor allan ein chwaraewyr ifanc i'r lefel yma o wrthwynebydd.
"Rydyn ni eisiau ennill gemau pêl-droed, felly i wneud hynny mae angen i ni gael y cydbwysedd yn iawn.
"Ydy hi'n realistig i ofyn i rai o'n chwaraewyr hŷn i fynd yn ôl eto mor gyflym? Mae'n debyg na, os edrychwch chi'n ôl ar bwysigrwydd y gêm honno [yn erbyn Wcráin] a'r emosiwn.
"Roedd yn rhaid i'r bechgyn roi shifft i fewn, felly mae'n rhaid i ni fod yn barchus a dewis tîm yn unol â hynny, ond fe welwch chi gyfuniad.
"Rydym yn barod ar gyfer gêm anodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022