£2 am litr o danwydd yn 'gyffredin erbyn canol yr haf'
- Cyhoeddwyd
Mae cymdeithas foduro'r RAC yn rhybuddio y bydd talu £2 am litr o betrol a disel yn gyffredin erbyn canol yr haf.
Eisoes mae ambell garej yng Nghymru yn codi dros £2 am litr o danwydd - ac mae pryder y bydd y gost i lenwi tanc car cyffredin yn cyrraedd dros £100 yn fuan.
Mae'r cynnydd yn achosi problemau gwirioneddol i weithwyr a chwmnïau ar draws y wlad - heb unrhyw arwydd y bydd pethau yn gwella dros fisoedd yr haf.
Mae Emma Murray, rheolwr cwmni gofalwyr Vale Senior Care yn Ninbych, yn poeni y bydd staff yn dod i'r casgliad na allan nhw barhau i weithio oherwydd cost tanwydd.
'Cynnig beiciau trydan i staff'
"'Da ni 'di cael ambell aelod o staff yn dod yma yn eu dagrau yn dweud na allan nhw fforddio tanwydd yn y car," meddai.
"Fedra i ddychmygu cwpl yn dod i'r casgliad, 'alla i ddim gweithio yn y sector gofal yn y cartre' ddim mwy', er ein bod ni fel cwmni yn talu y costau mwya' allwn ni am danwydd, achos dyw e ddim am weithio.
"Oherwydd ein bod ni mewn ardal wledig, 'da ni wedi bod yn talu bonws er mwyn cadw staff yma.
"'Da ni hyd yn oed wedi cynnig scooter trydan a beic trydan achos bod rhan fwya' o'n cleientiaid ni yn byw allan o'r dre'."
Mae costau tanwydd yn codi gan fod y pris am olew craidd yn cynyddu. Ffactor arall yw bod yr olew yn cael ei brynu a'i werthu mewn doleri, ac mae'r bunt yn wan yn erbyn y ddoler.
Ar ben hynny mae'r galw byd eang am danwydd yn cynyddu ar adeg pan fo llai ar gael oherwydd y sancsiynau yn erbyn Rwsia.
Os yw'r pris o lenwi tanc petrol car yn dod â dagrau i lygaid, mae perchnogion cwmnïau loriau a bysus yn diodde'n enbyd hefyd.
'Pasio'r cynnydd 'mlaen i'n cwsmeriaid'
Yn ôl Matthew Francis, rheolwr cyffredinol Frenni Transport sydd â'u pencadlys yng Nghrymych, mae eu cwsmeriaid eisoes yn talu'r pris.
"Ni wedi gweld cynnydd o £75,000 yn ein biliau tanwydd hyd yma eleni," meddai.
"Does ganddon ni ddim dewis ond pasio'r cynnydd yma 'mlaen i'n cwsmeriaid, sydd ar ddiwedd y dydd yn cael ei basio 'mlaen i'r bobl sy'n prynu pethau yn y siop."
Yn ôl rheolwr un o gwmnïau bysus mwya'r gogledd, maen nhw wedi gorfod rhoi'r gorau i gynnal rhai gwasanaethau bws oherwydd y cynnydd ym mhris tanwydd.
"Ma' prisiau wedi cynyddu yn sylweddol. 'Dan ni fyny 40% mewn costau tanwydd ers dechrau'r flwyddyn, ac mae'n cael impact anferth," meddai Steve Jones, rheolwr gyfarwyddwr cwmni bysus Llew Jones yn Llanrwst.
"Mae'n rhaid i ni basio'r costau hyn ymlaen i'n cwsmeriaid, ac ma' rhai wedi deall hynny.
"Ond mae'n fwy anodd gyda chytundebau am fysus lleol a bysus ysgol gyda chynghorau. 'Da ni 'di gorfod rhoi rhai o'r cytundebau hynny i fyny.
"'Da ni di gweithio am flynyddoedd i adeiladu'r cwmni, ac mae'n tragic i orfod rhoi peth o'r gwaith 'na fyny."
'Argyfwng cenedlaethol'
Yn ôl cwmni moduro'r RAC does dim arwydd y bydd costau tanwydd yn gostwng yn y dyfodol agos.
Wrth i economi China ddeffro ar ôl sawl cyfnod clo oherwydd Covid, bydd eu galw nhw am danwydd yn cynyddu, a misoedd yr haf yw'r cyfnod prysuraf am foduro yn Ewrop a Gogledd America.
"Mae pris tanwydd yn agosáu at 160 ceiniog y litr," meddai'r RAC, "ac ar ôl cynnwys saith ceiniog y garej a'r TAW o 20%, mi fydd hynny yn dod â'r pris i fodurwyr dros y £2".
"Heb os mae hwn yn datblygu yn argyfwng cenedlaethol i'r 32 miliwn o bobl sy'n berchen ar gar ar draws y DU, heb sôn am yr holl fusnesau a chwmnïau sy'n dibynnu ar danwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022