Rhybudd am gynnydd mewn dwyn tanwydd wrth i gostau gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Tancer olew
Disgrifiad o’r llun,

Gall tanc olew domestig fel yr un yma ddal dros 2,000 litr o danwydd, gwerth dros £2,000

Mae heddluoedd ar draws Cymru yn annog pobl i fod yn wyliadwrus yn sgil pryder am gynnydd mewn achosion o ddwyn tanwydd, wrth i gostau tanwydd barhau yn uchel.

Mae rhai o aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn Nyffryn Conwy eisoes wedi cael eu targedu ar ôl i danwydd gael ei ddwyn o beiriannau amaethyddol yn yr ardal.

Dywedodd Dafydd Jones, sy'n gweithio i'r undeb yn Llanrwst, fod y troseddau yn bryder.

"Mae yna ddwyn tanwydd allan o gerbydau ar ffermydd. Mae'n drosedd digon cas a ffiaidd achos dydy'r amaethwyr ddim callach tan mynd i'r peiriant yna," meddai.

"Da' ni'n gofyn i bobl fod yn fwy gwyliadwrus. Os maen nhw'n gweld cerbyd amheus o gwmpas, yna codi'r rhif.

"Os oes gyda chi ffôn symudol sydd yn tynnu lluniau, yna tynnu llun sydyn a chysylltu gyda'r heddlu.

"Beth da' ni eisiau gwneud ydy cau'r rhwyd am y bobl sydd yn mynd allan i ddwyn tanwydd o'r cerbydau yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undeb yn annog ffermwyr i symud peiriannau'n nes at eu ffermydd er mwyn cadw golwg

Mae Mr Jones yn dweud y gall ffermwyr gymryd camau syml hefyd i warchod cyflenwadau.

"Mi faswn i yn annog amaethwyr i ddod â'u cerbydau yn nes at fuarth y ffarm," meddai.

"Y peth pwysicaf ydy i bobl fod yn wyliadwrus o'u heiddo eu hunain a gwarchod eiddo, a rhoi clo ar hynny o bethau fedran nhw."

'Poeni am fwy o adroddiadau'

Mae Heddlu'r Gogledd a Heddlu Dyfed-Powys wedi annog pobl hefyd i warchod cyflenwadau tanwydd yn y cartref.

Dywedodd Iwan Owen, swyddog cefnogi cymunedol gyda thîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru: "Yr wythnosau diwethaf da' ni wedi gweld adroddiadau yn ymestyn trwy gydol gogledd Cymru [o ddwyn tanwydd].

"Yn Nyffryn Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Owen o Heddlu'r Gogledd fod adroddiadau o ddwyn tanwydd wedi bod ar draws y gogledd

Mae'n annog pobl i warchod eu tanciau tanwydd.

"Mi faswn i yn annog pobl i wneud yn siŵr bod ffensys o gwmpas tanciau, iwsio cloeon, digon o olau o gwmpas a CCTV.

"Mae costau CCTV wedi gostwng ac yn rhatach na llenwi'r tanc."

Mae'n cyfaddef fod yna bryder y bydd achosion o ddwyn yn cynyddu yn sgil costau tanwydd.

"Da' ni yn poeni fyddwn ni yn cael mwy o adroddiadau, felly da ni'n stopio ceir a faniau yng nghefn gwlad."

Difrod i danciau disel

Un cwmni trafnidiaeth sydd wedi dioddef achosion o ladrata yn y gorffennol ydy Frenni Transport yng Nghrymych.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y cwmni, Mathew Francis: "Da' ni wedi cael sefyllfa yn y gorffennol ble mae tanc y lori wedi cael ei wagio i gyd, a damage i'r tanc.

"Mae'r damage ni'n cael i'r tanciau, gan amlaf yn waeth na cholli'r disel. Mae'n costio mwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mathew Francis yn poeni y bydd achosion o ddwyn tanwydd yn cynyddu oherwydd prisiau uchel

Mae'n dweud nad yw'n talu ffordd i hawlio 'nôl ar yswiriant ar gyfer tanwydd sydd wedi ei ddwyn.

"Fel mae hi nawr, ni'n derbyn y golled. Mae llond tanc yn costio £835, rhywbeth fel 'na," meddai.

"Fan uchaf, mae 'da ni excess i dalu o £1,000. Dyw e ddim werth, ar hyn o bryd."

'4 lori a'r disel wedi mynd o bob un'

Yn ôl Mr Francis, mae gangiau troseddol yn targedu lorïau mewn rhai rhannau o'r wlad.

"Mae'r canolbarth, draw am Northampton, mae'n wael ffordd 'ny. Ni'n treial 'neud yn siŵr bod ni ddim yn parcio yn yr ardal 'na. Ond mae'n bobman," meddai.

"Cyn Nadolig, ym Mhenblewin, pedair lori a'r disel wedi mynd o bob un ohonyn nhw."

Mae hefyd yn pryderu y bydd dwyn ar gynnydd eto, wrth i brisiau barhau yn uchel.

"Rwy'n credu byddwn ni yn gweld e yn fwy a mwy aml."