Hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Eastern AirwaysFfynhonnell y llun, AirTeamImages.com
Disgrifiad o’r llun,

Ers Mawrth 2020, nid yw'r daith oedd yn cael ei rhedeg gan Eastern Airways wedi digwydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd hediadau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn ailddechrau yn dilyn saib o ddwy flynedd yn ystod y pandemig.

Dywedodd gweinidogion nad oes modd cyfiawnhau'r gwasanaeth bellach yn economaidd ac amgylcheddol.

Yn hytrach na gwario hyd at £2.9m y flwyddyn ar yr hediadau, bydd cyllid nawr yn cael ei ddargyfeirio i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters y byddai'r penderfyniad "o fudd i fwy o bobl" ac yn helpu Cymru i gyrraedd ei nodau newid hinsawdd.

77% at ddibenion gwaith

Roedd 77% o'r bobl oedd wedi bod yn teithio ar yr hediadau rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Awyrlu'r Fali yn eu defnyddio at ddibenion gwaith, meddai'r llywodraeth.

Ond mae'r symud fwyfwy at weithio gartref a chyfarfodydd ar-lein yn golygu bod rhagolygon galw ôl-Covid yn awgrymu y byddai'r awyrennau 29 sedd yn hedfan yn hanner llawn yn y dyfodol.

Daeth dadansoddiad o effaith carbon - a gomisiynwyd gan y llywodraeth - i'r casgliad bod angen llenwi 28 sedd i ddod â'r allyriadau fesul teithiwr i lawr i'r un lefel ag y byddai rhywun yn gyrru'r un pellter ar ei ben ei hun mewn car.

Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth yn cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd saith o bobl sy'n cael eu cyflogi gan Faes Awyr Caerdydd i redeg Maes Awyr Môn yn cael eu diswyddo.

Disgrifiad,

Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters: 'Helpu Cymru i gyrraedd nodau newid hinsawdd'

"Mae angen i ni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn y degawd nesaf nag a gyflawnwyd gennym yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd," ychwanegodd Lee Waters.

"Mae'n mynd i fod yn her aruthrol a bydd angen wynebu dewisiadau anodd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sy'n "edrych ar yr opsiynau i adeiladu cysylltiadau mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws y gogledd ac i mewn i'r gogledd".

Fe gafodd y gwasanaeth ei gyflwyno yn 2007 i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de.

Ar y cychwyn daeth dan y lach oherwydd y niferoedd isel o deithwyr ond cynyddodd y rhain yn y pendraw, gyda dros 14,000 yn teithio yn 2018 a 2019.

Ond ers Mawrth 2020, nid yw'r daith oedd yn cael ei rhedeg gan Eastern Airways wedi digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "hynod siomedig"

Dywedodd yr Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "hynod siomedig yn y cyhoeddiad".

"Rydw i wedi dangos fy mod i yn realistig ynglŷn â'r heriau efo'r gwasanaeth awyr - y ffaith bod llai o bobl angen teithio ar gyfer busnes yn sgil y pandemig a'n pryder cynyddol am newid hinsawdd," meddai.

"Ond, fy nghwestiwn i i'r llywodraeth oedd: os nad yr awyren, yna beth fydd y llywodraeth yn gynnig yn ei le, a lle fyddan nhw'n buddsoddi i sicrhau cysylltedd cyflymach rhwng y gogledd a'r de, drwy reilffordd yn arbennig?

"Yr ateb, yn amlwg, yw dim! 

"Dylai pob ceiniog o'r arian oedd yn cael ei wario ar yr awyren fynd ar wella cysylltedd trafnidiaeth de-gogledd, ond dyw'r ymrwymiad hwnnw ddim yma."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar: "Er fy mod yn deall y bydd rhai pobl yn rhwystredig gyda'r newyddion hyn, rwy'n credu mai dyna'r penderfyniad cywir yn enwedig o ystyried bod tua £3 miliwn o arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i gynnal y gwasanaeth bob blwyddyn."

Ychwanegodd, "mae'n siomedig mai dim ond nawr mae gweinidogion Llafur wedi cael gwared ar y cyswllt awyr."

£7.3m ar gymhorthdal

Mae dros £7.3m wedi'i wario ar gymhorthdal y gwasanaeth dros y pum mlynedd ariannol ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gwario'r cyllid nawr ar gyflymu gwaith ar gysylltedd gogledd-de o fewn cynllun Metro Gogledd Cymru.

Bydd hyn yn golygu bod cynlluniau Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam yn digwydd yn gynt a bydd gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu ar gyfer Brychdyn a Maes Glas.

Bydd gwaith i wella amseroedd teithiau rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd ynghyd â gwella integreiddio ffyrdd cynaliadwy eraill o deithio yn cael eu cyflymu.

Dywedodd y llywodraeth eu bod hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddyblu nifer y gwasanaethau bws rhwng Caernarfon a Phorthmadog er mwyn gwella cysylltiadau rheilffordd i dde a chanolbarth Cymru.

Yn y cyfamser mae £4m wedi ei glustnodi i helpu gyda gwaith mae Prifysgol Bangor yn ei wneud i ddatblygu gwell darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig.