Cyngor a'r heddlu i adolygu diogelwch ffordd yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Carafan wedi troi drosodd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am ffordd y B4405 sy'n rhedeg rhwng Tal-y-llyn a Thywyn

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu penderfyniad i adolygu diogelwch ar hyd ffordd yn ne Gwynedd yn dilyn nifer o ddamweiniau arni dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd y byddan nhw'n gweithio gyda Heddlu'r Gogledd i weld a oes modd gwneud ffordd y B4405, rhwng Tal-y-llyn a Thywyn, yn fwy diogel.

Bu gwrthdrawiad angheuol ar y ffordd yn 2018, a dros y blynyddoedd mae sawl cerbyd wedi dod oddi ar y ffordd ac i mewn i Lyn Mwyngil, wrth droed Cader Idris.

'Fedrwn ni ddim cario 'mlaen ar hap'

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi croesawu'r adolygiad, gan rybuddio bod y broblem yn un ehangach ar ffyrdd gwledig ar draws Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Car wedi gwyro i'r llyn - un enghraifft o nifer o ddamweiniau ar y ffordd

Mae gan y ffordd bresennol uchafswm cyflymder cenedlaethol o 60mya, ond mae ymgyrchwyr wedi galw am ostwng hynny fel un ffordd bosib o leihau nifer y gwrthdrawiadau.

"Fedrwn ni ddim cario 'mlaen ar hap," meddai'r cynghorydd Beth Lawton, sy'n cynrychioli ward Bro Dysynni.

"Drwy gael yr ymchwiliad yma gobeithio neith o ddangos lle fedrwn ni falle wella'r ffordd, neu arafu cyflymder, neu dim ond codi ymwybyddiaeth pobl i yrru mewn ffordd call ar hyd y ffordd."

'Beryg fod rhywun am golli eu bywyd'

Mae Brian Matthews yn rhedeg Gwesty Pen-y-bont ger y llyn, ac yn dweud fod y damweiniau'n digwydd yn llawer rhy aml.

"Does 'na ddim un haf yn mynd heibio lle does dim un cerbyd yn mynd yn syth oddi ar ddiwedd y ffordd ac i mewn i'r llyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Matthews yn rhedeg Gwesty Pen-y-bont ger y llyn

"Yn amlwg mae hwnna'n bryder. Mae'n mynd i fod yn beryglus, ac mae 'na beryg fod rhywun am golli eu bywyd."

Ychydig i fyny'r ffordd mae Gwesty Ty'n y Gornel, ac mae'r rheolwr Malcolm Higgins yn dweud fod angen terfyn cyflymder o 30mya i warchod nid yn unig y gyrwyr, ond cerddwyr.

"Mae ein seti ni wrth y llyn yn aml yn llawn pobl yn mwynhau eu hunain, ond er mwyn dod yn ôl i'r gwesty rhaid croesi'r ffordd," meddai.

"Does dim ond angen i chi eistedd yna am ychydig i weld y cyflymder sydd gan rai gyrwyr sy'n ceisio mynd drwy'r bobl sy'n croesi. Dim ond mater o amser ydi o nes y bydd rhywun yn cael ei daro."

31 o farwolaethau

Mae Liz Saville Roberts yn cefnogi'r galwadau i leihau'r terfyn cyflymder ar hyd y ffordd.

"Yn etholaeth Dwyfor Meironnydd, ers 2016 at y llynedd, 'dan ni 'di cael 31 o farwolaethau a 231 o wrthdrawiadau difrifol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd mae sawl cerbyd wedi dod oddi ar y ffordd ac i mewn i Lyn Mwyngil, wrth droed Cader Idris

"Felly 'dan ni'n gwybod fod ffyrdd cefn gwlad Cymru'n beryglus, maen nhw'n droellog, mae 'na goed a chloddiau ar eu hyd nhw, mae 'na bobl yn gyrru ar eu hyd nhw sydd efallai ddim yn 'nabod y ffyrdd.

"Ryw ffordd neu'i gilydd mae'n rhaid i ni ffeindio ffordd o'u diogelu nhw, gan gofio wrth gwrs y bydd nifer y bobl yn cynyddu yn yr haf, ac eto, pobl sydd ddim yn 'nabod y ffyrdd."

'Pobl sy'n beryglus'

Ond yn ôl un o drigolion ardal Tal-y-llyn, mae angen i yrwyr eu hunain gymryd cyfrifoldeb hefyd.

"'Di'r ffordd ddim yn beryglus, pobl sy'n beryglus," meddai Marian Rees.

"Beth sy'n berygl ydy cyflymdra trafnidiaeth. Mae'r ffyrdd yn iawn, 'mond i bobl eu parchu nhw.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r ffyrdd yn iawn, 'mond i bobl eu parchu nhw," meddai Marian Rees

"Ma' hwn yn glefyd cyffredinol trwy Gymru gyfan. Y cyflymdra 'ma mae pobl yn ei neud ar ffyrdd sydd ddim yn addas... a dyna broblem ma' raid i Gymru daclo."

Dywedodd ymgyrch ddiogelwch GanBwyll fod ganddyn nhw ddau safle ar hyd y B4405 ble maen nhw'n defnyddio camerâu cyflymder, ond nad oedd hynny wastad yn effeithiol gan fod gyrwyr yn gwybod ble maen nhw ac yn arafu dim ond yn y llefydd hynny.

Ychwanegodd llefarydd fod camerâu cyflymder cyfartalog yn well ar gyfer "gwneud i yrwyr gadw at y terfyn cyflymder", yn enwedig ar "ffyrdd gwledig".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, byddwn yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth am yr holl ffactorau sy'n gysylltiedig â'r damweiniau diweddar ac adnabod os yw'n briodol cyflwyno mesurau ychwanegol ar gyfer gwella diogelwch y ffordd."

Pynciau cysylltiedig