Gyrrwr fan yn marw wedi gwrthdrawiad Sir Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cyffordd yr A525 â A539Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd yr A525 a'r A539

Mae gyrrwr fan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ger ffin Sir Wrecsam â Lloegr.

Cafodd Heddlu'r Gogledd alwad ychydig cyn 18:00 nos Sul yn rhoi gwybod am wrthdrawiad ar yr A525 ger y gyffordd ar gyfer yr A539 i gyfeiriad Hanmer.

Dywed y llu mai fan Ford Transit gwyn a char Ford Focus coch oedd yn y gwrthdrawiad a bod dyn oedd yn gyrru'r fan wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth ac yn arbennig o awyddus i glywed gan yrrwr arall oedd yn yr ardal ar y pryd.

"Ychydig cyn y gwrthdrawiad rydym yn credu bod car lliw glas, BMW neu gar tebyg o bosib, oedd yn teithio o gyfeiriad Whitchurch tua Bangor Is-coed, wedi gorfod cymryd mesurau osgoi wedi i'r fan ddod gyferbyn ato," meddai'r Sarjant Meurig Jones o'r Uned Plismona'r Ffyrdd.

"Dwi'n apelio ar yrrwr y cerbyd hwnnw i gysylltu efo ni er mwyn ein helpu gydag ein hymchwiliad sy'n parhau.

"Dwi hefyd yn apelio ar unrhyw un allai wedi bod yn teithio ar hyd yr A525 o gwmpas adeg y gwrthdrawiad i gysylltu gyda ni.

"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau'r dyn, sy'n cael eu cefnogi gan swyddog cysylltiad teulu arbennig."

Pynciau cysylltiedig