Yr ymgyrchydd, heddychwr a gweinidog Cen Llwyd wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r gweinidog, ymgyrchydd iaith a heddychwr Cen Llwyd o Dalgarreg, Ceredigion yn 70 oed.
Roedd yn weinidog gyda'r Undodiaid ac yn genedlaetholwr pybyr.
Bydd hefyd yn cael ei gofio fel ymgyrchydd iaith a heddychwr brwd fuodd yn rhan o'r ymgyrch i atal arfau niwclear rhag cael eu lleoli yng Nghomin Greenham.
Dywedodd yr ymgyrchydd iaith ac awdures Angharad Tomos y bydd hi'n ei gofio am ei ddyfalbarhad.
"Y llawenydd fydda i yn ei gysylltu 'efo Cen Llwyd, roedd yn ymgorfforiad o obaith.
"Yn y deugain mlynedd a mwy y bum yn cyd-ymgyrchu ag o, chollodd Cen (nac Enfys) y fflam honno o obaith. O ran yr iaith, heddwch a Christnogaeth, fe wnaeth Cen ddyfalbarhau, heb ddigalonni."

Un arall o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith oedd yn adnabod Cen Llwyd yn dda oedd Ffred Ffransis.
"Dros hanner can mlynedd o adnabod a gweithio gyda Cen dydw i ddim yn cofio unwaith i fi gwrdd ag e heb fod gwên a golwg garedig ar ei wyneb.
"Mae colli Cen yn debyg i brofiad Cymru o golli Ray Gravell, roedd y ddau â'r un math o gymeriad."
'Colled i ni gyd'
Dywedodd AS Ceredigion a Llywydd y Senedd Elin Jones fod Cen Llwyd yn ddyn wnaeth roi ei "fywyd a'i enaid dros y Gymraeg a Chymru. A dros ei gymuned a'i gred".
"A gwneud hynny gyda chadernid egwyddor a gyda hiwmor drygionus.
"Mae'n golled i ni gyd, ond yn enwedig i Enfys, Heledd a Gwenllian."
Disgrifiodd Dafydd Iwan Cen Llwyd fel un o "wir gewri Cymru" wrth drydar am ei farwolaeth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn yr 1980au roedd yn ymgyrchydd dros CND a'r mudiad i rwystro arfau niwclear rhag cael eu lleoli yng Nghomin Greenham yn Berkshire.
Dywedodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor fod Cen Llwyd yn ddyn oedd yn fodlon dyfalbarhau tan y diwedd, a ddim yn rhoi lan.
"Diolch am ei wytnwch, hiwmor a'i gyfeillgarwch."

"Fe wnes i ddod i'w adnabod yn y 1970au pan aethom i'r coleg gyda'n gilydd yn Abertawe, fe gyda'r Undodiaid a finnau gyda'r Annibynwyr.
"Roedd yn ddyn oedd yn driw iawn i'w gymuned a'i gredoau ac yn heddychwr mawr.
"Roedd yn gefnogol iawn o ran y mudiad heddwch ac yn un o sefydlwyr CND Dyffryn Teifi ac yn weithgar iawn yn y maes.
"Colled ofnadwy yw colli Cen, i'r fro hon ac i'r genedl."