Cwricwlwm newydd: Rhai ysgolion 'ar ei hôl hi', medd pennaeth Estyn
- Cyhoeddwyd
Mae yna ddarlun cymysg wrth edrych ar baratoadau ysgolion Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn ôl y prif arolygydd addysg.
Dywedodd pennaeth Estyn, Owen Evans bod rhai ysgolion yn "bellach 'mlaen ar y siwrne" nag eraill.
Bydd pob ysgol gynradd a thua hanner yr ysgolion uwchradd yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru yn ffurfiol o fis Medi.
Yn ogystal ag enghreifftiau o arfer "arbennig", mae rhai mannau "ar ei hôl hi" wrth geisio diwygio'r ffordd mae plant yn dysgu o fewn ysgolion, meddai Mr Evans.
Yn ôl un undeb mae'r darlun cymysg yn golygu y bydd plant yn cael "profiadau addysgol go wahanol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod llawer iawn o waith eisoes wedi ei gyflawni.
'Straen anferth' y pandemig
Wedi blynyddoedd o baratoi, bydd dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion cynradd i weithredu'r cwricwlwm newydd o fis Medi.
Rhoddwyd dewis i ysgolion uwchradd gyflwyno'r cwricwlwm i Flwyddyn 7 ym Medi 2022 neu oedi blwyddyn oherwydd tarfu'r pandemig.
Dywedodd Owen Evans bod y pandemig wedi "setio pethau nôl" a rhoi ysgolion dan "straen anferth", ond fod yr ysgolion gorau dal wedi bod yn gwneud y gwaith meddwl ac arbrofi.
"Mae rhai ysgolion wedi gwneud peth wmbreth o waith ac yn barod iawn am y cwricwlwm," meddai.
"Ond mae 'na batrwm gwahanol dros y wlad - mae rhai ysgolion yn bellach 'mlaen ar y siwrne nag ysgolion eraill."
Tra bod ysgolion cynradd yn gyffredinol wedi cymryd "camau cadarn" ymlaen, mae'r sefyllfa ysgolion uwchradd yn fwy amrywiol.
Disgrifiodd y sefyllfa fel "pelen eira", gyda phethau'n "byrlymu a chyflymu wrth i'r dyddiad agosáu".
"Ddylen ni ddim meddwl bydd y cwricwlwm yn fyw yn ei gyfanrwydd ym mis Medi," ychwanegodd.
Beth yw'r Cwricwlwm i Gymru?
Cafodd y cynllun ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ei gyhoeddi yn 2015.
Mae wedi ei ddisgrifio fel y newid mwyaf i addysg yng Nghymru mewn cenhedlaeth.
Mae'n seiliedig ar chwe maes dysgu a phrofiad, ac mae ganddo bedwar diben - creu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n cyfrannu'n fentrus a chreadigol i gymdeithas; dinasyddion egwyddorol, gwybodus; ac unigolion iach, hyderus.
Y bwriad yw bod y Cwricwlwm i Gymru yn gosod fframwaith, tra bod ysgolion yn cael eu hannog i ddatblygu eu cwricwla eu hunain wedi'u teilwra ar gyfer eu disgyblion a'u cymunedau.
Ond mae rhai yn poeni nad yw'n rhoi digon o strwythur i athrawon ac y gallai arwain at ormod o amrywiaeth mewn safonau.
Fe fyddai pennaeth Ffederasiwn Ysgolion Plas Coch a Bro Alun yn Wrecsam wedi hoffi pe bai ysgolion cynradd, fel rhai uwchradd, wedi cael y dewis i oedi am ychydig cyn cyflwyno'r cwricwlwm yn ffurfiol.
"Heb os mae'r pandemig wedi cael effaith ar baratoadau ysgolion ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru," meddai Osian Jones.
"Yn fan hyn mi ydan ni ar y ffordd i fod yn barod ond dwi'n meddwl bod angen i bawb werthfawrogi fod gwahanol ysgolion yn mynd i fod mewn gwahanol lefydd ar y siwrne.
"Mae 'na dipyn o newidiadau 'di bod i fyd addysg beth bynnag yn ddiweddar rhwng y cod newydd, anghenion dysgu ychwanegol, y Cwricwlwm i Gymru ac yna wrth gwrs dwy flynedd o'r pandemig.
"Yn ein hysgolion ni, 'da ni wedi cael trafferth rhyddhau staff i fynd i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd oherwydd fod yna ddiffyg staff cyflenwi ar gael, oherwydd salwch staff yn ymwneud â Covid hefyd."
Yn y pendraw, bydd y cwricwlwm yn cwmpasu plant tair i 16 oed ac fe fydd yn cael ei ehangu fesul blwyddyn, gan gyrraedd blwyddyn 11 yn 2026.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod llai na hanner yr ysgolion uwchradd wedi penderfynu cyflwyno'r cwricwlwm eleni.
Mae Ysgol y Creuddyn ger Llandudno yn un o'r ysgolion sydd wedi dewis gohirio tan fis Medi 2023.
Dywedodd y pennaeth, Trefor Jones, fod y cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle i fod yn "wirioneddol greadigol" a "rhoi stamp Creuddyn yn gadarn ac yn glir ar yr hyn 'da ni'n ei wneud".
Ond byddai caniatáu amser ychwanegol i rieni, disgyblion a'r gymuned fwydo i mewn i'r broses yn "fuddiol iawn", meddai.
"Mi oedden ni yn awyddus am yr hyblygrwydd i ni wirioneddol fynd ar ôl agweddau eraill o'r cwricwlwm," meddai.
Dywedodd eu bod am wneud yn siŵr "fod y plant yn derbyn profiadau arbennig".
Pryder am gyflymder y newidiadau
Mae cynrychiolwyr arweinwyr ysgolion yn poeni y gallai diwygiadau eraill ym myd addysg dynnu sylw oddi ar y cwricwlwm.
Fe allai'r pwysau gwaith gael "effaith andwyol ar iechyd a lles staff a dysgwyr", meddai llywydd NAHT Cymru, Kerina Hanson.
Ychwanegodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr ASCL Cymru: "Ddylen ni ddim fod yn edrych ar lu o ddiwygiadau eraill, er enghraifft ynghylch newid y diwrnod a blwyddyn ysgol, ar yr un pryd a chyflwyno'r cwricwlwm."
Rhybuddiodd undeb arall y byddai darlun cymysg yn golygu bod "plant ledled Cymru yn cael profiadau addysgol go wahanol" ac y gallai rhai hyd yn oed weld "dim newid o gwbl".
"Mae yna bryder eang o hyd am yr amserlen a chyflymder cyflwyno'r diwygiadau," meddai Neil Butler, swyddog cenedlaethol Cymru yr NASUWT.
"Mae ysgolion yn dal i fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar ddysgu a datblygiad plant ac mae pryder y bydd ychwanegu'r cwricwlwm newydd ar ben hynny yn gwaethygu, yn hytrach na helpu gyda'r heriau y mae ysgolion yn wynebu."
'Gwerthfawrogi'r heriau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwerthfawrogi'r heriau y mae'r byd addysg wedi'i wynebu yn ystod y pandemig" a dyna pam fod ysgolion uwchradd wedi cael hyblygrwydd.
Mae £35m yn ychwanegol wedi'i ddarparu eleni i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm, meddai.
"Rydyn ni'n gyffrous am y cyfleoedd trawsnewidiol mae'n ei gynnig i newid addysgu a gwella safonau addysgol," ychwanegodd y llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019