Gŵyl Tafwyl yn dychwelyd yn llawn wedi tair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Tafwyl yn cael ei gynnal yn llawn am y tro cyntaf mewn tair mlynedd

Mae'r torfeydd wedi heidio i Gastell Caerdydd wrth i Tafwyl ddychwelyd yn llawn i'r brifddinas wedi seibiant o dair blynedd.

Gyda 40 o fandiau yn perfformio dros y penwythnos, mae disgwyl i 40,000 o bobl ymweld a'r digwyddiad yng Nghastell Caerdydd.

Ond yn ogystal a cherddoriaeth byw ac artistiaid fel Sŵnami ac Yws Gwynedd, mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys theatr a chomedi, a thrwy hynny'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y brifddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl 40,000 o ymwelwyr ar draws y dau ddiwrnod

Tydi'r ŵyl heb ei lwyfannu'n llawn ers tair mlynedd oherwydd y pandemig, er i ŵyl y llynedd gael ei ddefnyddio fel cynllun peilot ar gynnal digwyddiadau mawr yng nghysgod Covid.

'Perthyn i bawb'

Yn lansiad swyddogol yr ŵyl roedd Gweinidog y Gymraeg yn awyddus i bwysleisio fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb.

Dywedodd Jeremy Miles AS: "Mae'r ŵyl am ddim felly mae pawb yn gallu dod a blasu, a rwy'n sicr fydd pobl yn dod falle sydd ddim yn medru llawer o'r Gymraeg jyst yn troi fyny i weld beth sy'n digwydd yma ac yn cael eu hysbrydoli falle i ymgymryd a gwersi.

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles: 'Mae Tafwyl a gwyliau fel hyn mor ffantastig'

"Mae lot o heriau wedi bod i'r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf felly mae'n amlwg bod angen bod yn arloesol yn sut ni'n ymateb i hynny.

"Mae wir yn bwysig, wedi dysgu'r Gymraeg, ein bod yn ei defnyddio hi, a dyna pam mae Tafwyl a gwyliau fel hyn mor ffantastig."