Banc yn cynnig lle diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig
- Cyhoeddwyd
Bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu defnyddio "mannau diogel" i gael cymorth arbenigol ym mhob un o ganghennau HSBC yng Nghymru.
Mae cynllun Safe Spaces yn cynnig rhywle tawel i ddioddefwyr allu cysylltu â gwasanaeth cymorth neu siarad â ffrind neu aelod o'r teulu.
Gall pobl hefyd siarad ag aelod o staff sydd wedi cael eu hyfforddi, neu gysylltu â'r heddlu lleol os oes angen.
Syniad Hestia, elusen cam-drin domestig, ydy'r Safe Spaces ac mi gafodd ei lansio yng nghanol cyfnod clo cyntaf y pandemig Covid-19.
Mae'r cynllun eisoes ar waith mewn dros 5,000 o fferyllfeydd ledled Prydain, gyda chwmnïau mawr fel Boots, Superdrug, Morrisons a Well, yn ogystal â fferyllwyr annibynnol lleol, yn cymryd rhan.
HSBC UK ydy'r mwyaf o'r banciau stryd fawr i gynnig y gwasanaeth a gafodd ei dreialu'n wreiddiol y llynedd yn Southampton.
Mae dros 4,000 o staff ar draws holl ganghennau HSBC yn y Deyrnas Unedig wedi cael hyfforddiant arbenigol i'w helpu i adnabod arwyddion o gam-drin.
Sut mae'r cynllun yn gweithio?
Cerddwch i mewn i unrhyw leoliad sy'n cynnig gofod diogel;
Gadewch i aelod o staff wrth y cownter wybod eich bod angen defnyddio'r man diogel;
Bydd aelod o staff yn mynd â chi i'r gofod diogel sydd o fewn ystafell breifat;
Unwaith y byddwch i mewn, mi allwch ddefnyddio'r gofod ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio i chi. Mae'r ystafelloedd ar wahân yma yn darparu ffyrdd diogel i estyn at ffrindiau a theulu a chysylltu â gwasanaethau cymorth arbenigol.
Dywedodd Dyfrig Roberts, cyfarwyddwr lleol HSBC UK yn Llangefni, Ynys Môn, fod mabwysiadu'r cynllun Safe Spaces yn cyd-fynd â mentrau lleol eraill gan y banc, gan gynnwys rhoi'r hawl i bobl heb gyfeiriad parhaol i agor cyfrif banc.
"Mae banciau wedi newid," meddai, "ac un o'r pethau mwyaf pwysig i ni rŵan ydy bod yna, rhoi rhywbeth gwahanol, a rhoi lle saff i gwsmeriaid pan maen nhw isio fo.
"Mae 4,000 o staff wedi cael eu hyfforddi i helpu. Yma yn Llangefni, ar draws gogledd Cymru, a trwy Gymru a trwy Brydain i gyd mi fedrith rywun fynd i mewn i gangen HSBC a gofyn am help."
Esboniodd mai rôl y banc yn y lle cyntaf oedd adnabod problem, ac mai elusennau a chyrff cymorth eraill fyddai'n camu i mewn wedyn.
"Mae staff hefyd wedi cael eu hyfforddi i drio cael y pethau yma allan wrth sgwrsio efo nhw.
"'Dan ni yma wrth gwrs i helpu, ond ein gwaith ni ydy sylweddoli a deud 'reit be arall fedran ni wneud i helpu chi, dewch i mewn am sgwrs efo ni'."
Stori Rehana
Dywed Rehana, sy'n 47 oed ac yn rheolwr banc, nad yw'n ffitio'r syniad arferol o ddioddefwr cam-drin domestig, ond am flynyddoedd roedd hi'n gwrthod cyfaddef ei bod yn cael ei cham-drin gan ei chyn-ŵr.
"Ro'n i'n briod am flynyddoedd cyn sylweddoli o'r diwedd bod angen i mi adael," meddai.
"Mae gen i dri o blant a dim ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a dechrau holi pethau fel 'pam bod dad yn cael gwneud pethau a 'dach chi ddim?' y gwnes i sylweddoli pa mor gamdriniol oedd y berthynas wedi mynd.
"Roedd 'na wastad un rheol iddo fo ac un arall i mi."
Ymddygiad rheolaethol yn hytrach nag ymosod corfforol oedd yn gwneud ei pherthynas yn un gamdriniol, meddai, gan esbonio y byddai ei gŵr yn cuddio ei goriadau i'w rhwystro rhag gadael y tŷ.
"Ro'n i'n garcharor yn fy nhŷ fy hun, wedi f'ynysu ac wedi fy nhorri i ffwrdd o'n nheulu."
Un diwrnod cydiodd ei gŵr ynddi, a'i thaflu i'r llawr, a dyna pryd y penderfynodd ei adael.
Ond roedd ei theulu'n cefnogi ei gŵr, ac fe wnaeth hyd yn oed symud i fyw at rieni Rehana ar ôl i'r briodas ddod i ben.
Roedd o'n dal i geisio rheoli agweddau o'i bywyd hefyd.
"Bu farw fy mam yn 2021 a wnes i mo'i gweld hi cyn iddi farw - dyna rywbeth arall y cymerodd oddi arnaf, fy nheulu.
"Mi ddywedodd wrth fy mhlant cyn dweud wrtha i, roedd o'n rhan o'i gêm ac roedd o'n dal i reoli fy mywyd."
Er iddi gael gorchymyn llys i'w atal rhag cysylltu â hi, dechreuodd ei weld yn ei hardal leol, ac un diwrnod fe'i gwelodd mewn archfarchnad, ac wrth adael sylwodd ei fod yn disgwyl amdani yn y maes parcio.
"'Mae o'n fy stelcian', medda fi, 'be mae o'n mynd i wneud?'
"Arhosais am beth amser ond ro'n i'n poeni achos doedd o ddim yn gadael.
"Gwyddwn fod Morrisons yn rhan o'r cynllun Safe Spaces felly ro'n i'n cael hyder wrth ofyn am help.
"Roedd y rheolwr yn wych, a gadawodd i mi aros mor hir ac ro'n i'n dymuno.
"Ro'n i'n teimlo'n saff yn gofyn am help oherwydd Safe Spaces.
"Mi wnaeth wahaniaeth mawr y diwrnod hwnnw. Ro'n i'n gwybod y byddwn yn saff ac y byddai'r staff yn fy nghoelio a'u bod wedi cael hyfforddiant i helpu.
"Fy nghyngor i unrhyw un sy'n mynd drwy'r un math o beth yw i beidio oedi cyn mynd at Safe Spaces i geisio cael cymorth - mi gewch eich credu ac mi fyddan nhw'n helpu."
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, ymgynghorydd annibynnol yn y maes trais yn y cartref bod y Ddeddf Trais yn y Cartref, sydd newydd gael ei basio gan San Steffan, yn dangos "fod trais economaidd yn cael ei adnabod fel rhan allweddol o drais yn y cartref".
"Beth mae hyn yn ei olygu yw bod partner yn gallu edrych ar be' sy'n cael ei wario, faint sy'n cael ei wario, lle mae'n cael ei wario, a gorfod dangos bob receipt maen nhw'n cael - i weld be maen nhw wedi gwario, yn lle a pha amser," meddai.
"Mae'n gallu bod yn fath o reolaeth sydd yn anodd iawn i bobl sylweddoli beth sydd yn digwydd.
"Dwi'n credu beth sydd hefyd yn arwyddocaol o'r cynllun yma yw fod dim stigma gan rywun i fynd mewn i fanc neu fferyllfa.
"Maen nhw'n llefydd y mae pobl yn mynd iddyn nhw'n o ddydd i ddydd, mae'n rhan o'u bywydau nhw, ac felly mae hynny'n helpu i leihau'r stigma a'r embaras mae pobl yn teimlo wrth fynd i ofyn am help a gwybodaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018