Rhestrau aros wedi cynyddu bob mis ers dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros yng Nghymru wedi cynyddu bob mis am y ddwy flynedd ddiwethaf gan gyrraedd mwy na 707,000 - ond mae cyfradd y cynnydd wedi arafu unwaith eto.
Cyrhaeddodd y nifer a fu'n aros am fwy na 36 wythnos yr uchaf ar gofnod - ychydig dros chwarter miliwn (258,189).
Mae ffigyrau fore Iau yn dangos gostyngiad bach yn nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am ofal nad yw'n ofal brys, sef ychydig dros 68,000.
Ond mae llai o newyddion da mewn gofal canser, lle dechreuodd llai o bobl eu triniaeth ym mis Ebrill, ac mae llai o bobl wedi dechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod, o'i gymharu â'r mis blaenorol.
O ran gofal heb ei drefnu - lle mae angen cymorth brys ar bobl - tra bod cyfanswm y galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans wedi gostwng, fe wnaethon nhw dderbyn nifer uwch nag arfer o alwadau lle mae bywyd yn y fantol.
Ar gyfartaledd, gwnaed 116 o "alwadau coch" bob dydd ym mis Mai, sef y 12fed mis yn olynol lle roedd y gwasanaeth yn cymryd mwy na 100 o'r galwadau mwyaf brys y dydd.
Y targed yw cyrraedd 65% mewn wyth munud, ond ym mis Mai roedd y ffigwr yn 54.5% - gwelliant ar y mis blaenorol.
Roedd cynnydd hefyd yn nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda 2,937 ar gyfartaledd ledled Cymru, a mân welliannau yn y niferoedd sy'n aros pedair neu 12 awr, er eu bod yn dal i fod ymhell o'r targedau.
Ym mis Ebrill treuliodd 66% o gleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys lai na phedair awr cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau - y trydydd isaf ar gofnod, gyda tharged o 95%.
Roedd 10,200 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy, yn erbyn y targed na ddylai neb wneud hynny, er bod y niferoedd wedi bod yn gostwng ers y record ym mis Mawrth.
Roedd nifer y galwadau i 111, y llinell gymorth nad oedd yn rhai brys, yn 71,120 ym mis Mai, sef cyfartaledd o 2,294 o alwadau'r dydd.
'Newid dramatig mewn agweddau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwasanaethau iechyd yn "parhau i wella o effeithiau'r pandemig" ac absenoldeb aelodau o staff.
"Rydym wedi gweld mwy o bobl yn dod ymlaen gyda phryderon iechyd ond bydd y gostyngiad yn y diwrnod gwaith oherwydd gwyliau'r Pasg wedi effeithio ar gapasiti gofal wedi'i drefnu," meddai.
Ychwanegodd fod y llywodraeth yn "parhau yn bryderus am yr oedi" mae cleifion yn ei wynebu, ond ei bod hi'n "bwysig nodi yn ystod mis Ebrill 2022 cynhaliwyd dros 300,000 o ymgynghoriadau â chleifion".
Dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen i'r Blaid Lafur "roi'r gorau i dorri'r holl gofnodion anghywir a dod â'r niferoedd cywilyddus hyn i ben lle mae un mewn pump o bobl ar restr aros, un mewn pedwar ohonyn nhw am dros flwyddyn, a bron i 70,000 am ddwy flynedd".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth bod "angen i ni weld camau'n cael eu cymryd rŵan i gynyddu capasiti ac i wella llif cleifion fel y gallwn ddelio â'r sefyllfa bresennol, argyfwng a oedd yn bodoli cyn Covid".
"Ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n gynaliadwy ar gyfer y tymor hir, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys newid dramatig mewn agweddau - a chyllid y Llywodraeth - tuag at fesurau iechyd ataliol."
Mae'r ffigyrau yn "frawychus", yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
"Mae cleifion yn cael eu gadael i dalu'r pris am flynyddoedd o Lafur yn gadael ein gwasanaethau iechyd i lawr," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022