Galw am wersi rheoli poen i bobl hŷn wrth i restrau aros dyfu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae Age Cymru yn cynnal dosbarthiadau Tai Chi i helpu pobl i reoli eu cyflyrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Age Cymru yn cynnal dosbarthiadau Tai Chi i helpu pobl i reoli eu cyflyrau

Mae dwy ran o dair o bobl hŷn wedi cael trafferth cael mynediad i ofal iechyd yn ystod cyfnod y gwanwyn, yn ôl arolwg newydd gan elusen.

Mae Age Cymru hefyd yn rhybuddio bod mwy o bobl hŷn yn gwario eu cynilion i dalu am ofal iechyd preifat oherwydd twf rhestrau aros yn ystod y pandemig.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ddydd Iau yn dangos bod rhestrau aros wedi cynyddu bob mis am y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod mwy na 707,000 yn aros am driniaeth.

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod yn buddsoddi i wella'r sefyllfa.

Beth oedd canlyniadau'r arolwg?

Mae arolwg blynyddol Age Cymru yn awgrymu fod 63% o bobl dros 50 wedi cael profiad negyddol yn gysylltiedig â'u triniaeth yn y cyfnod wedi'r pandemig.

Roedd 70% o'r ymatebwyr wedi cael trafferth cael apwyntiad gyda meddyg teulu.

Dywedodd 73% ei bod hi'n anodd cael triniaeth mewn ysbytai - yn enwedig triniaethau orthopaedig - ac roedd 70% wedi cael trafferth cael gofal deintyddol.

Awgrymodd hefyd fod lles corfforol llawer o bobl hŷn wedi dioddef, gydag eraill yn poeni am gael dau ben llinyn ynghyd wrth iddynt droi at ofal iechyd preifat.

"Yn y lle cyntaf mae 'na ofid am gael apwyntiadau meddyg teulu ac elfen fawr o waharddiad digidol i hen bobl," medd Deiniol Jones o Age Cymru.

"Yr ail elfen yw gwasanaethau ysbyty a chael y cam nesaf i'r driniaeth neu'r profion iechyd maen nhw eu hangen.

"Wedyn mae 'na bryder am beth sy'n digwydd pan fo rhywun yn cael ei ryddhau o'r ysbyty a rhai pobl hŷn yn aros misoedd ar fisoedd i gael eu dilyn i fyny.

"Prin iawn yw'r bobl sy'n gallu fforddio cael triniaeth yn breifat... felly ry'n ni'n gofyn i'r llywodraeth wella y lefel o wasanaeth sydd ar gael. Oherwydd dyw mynd yn breifat ddim yn ateb i bawb."

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, eisoes wedi cyhoeddi £60m yn ychwanegol ar gyfer trawsnewid gofal wedi'i gynllunio - £15m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf.

Mae'r cyllid yn ychwanegol at y £680m a gyhoeddwyd yn flaenorol i helpu'r GIG i adfer ar ôl y pandemig.

Ai Tai Chi yw'r ateb?

Mae Age Cymru hefyd yn galw am fuddsoddiad tymor hir mewn cynlluniau sy'n helpu i reoli poen a chaniatáu i fwy o bobl aros yn iach tra'n aros am driniaeth.

Un enghraifft yw cynllun sy'n gynnig dosbarthiadau Tai Chi ar gyfer pobl dros 50 oed.

Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan Age Cymru ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu pobl i reoli eu cyflyrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dosbarthiadau am ddim ond mae yna alw am gyllid ychwanegol i'w cynnal

"Mae gan y dosbarthiadau rôl bwysig i geisio atal problemau iechyd rhag datblygu ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol unigolyn," meddai Heather Ferguson, Pennaeth Polisi Age Cymru.

Wrth i rai unigolion wynebu blynyddoedd ar restrau aros, dywed Ms Ferguson fod mesurau i "reoli poen yn gynyddol bwysig i bobl hŷn".

"Ond mae'r math hwn o gymorth yn eithaf anghyson ledled Cymru a hoffem iddo fod yn fwy cyson fel bod pobl yn gallu cael mynediad ato yn gynnar."

Er yn diolch am yr arian i'w cynnal, dywedodd mai'r "hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw cyllid cynaliadwy, hirdymor drwy sefydliadau trydydd sector er mwyn i'r rhain weithio yn y tymor hir".

'Mae fe'n hela i fi deimlo'n well'

Mae Diana Bianchi o Grangetown yng Nghaerdydd yn mynychu'r dosbarthiadau bob wythnos.

Mae hi bellach wedi ymddeol ers sawl blwyddyn ac yn credu bod Tai Chi yn helpu i edrych ar ôl ei hiechyd.

Disgrifiad o’r llun,

"Does neb am fynd i'r ysbyty os nad oes rhaid ac mae dosbarthiadau fel hyn yn bwysig," medd Diana Bianchi

"Mae fe'n hela i fi deimlo'n well ac yn helpu rhywun i ymlacio," meddai.

"Maen nhw'n dweud fod symudiadau Tai Chi yn cael effaith ar wahanol organau, ma' 'na symudiad ar gyfer yr arennau, symudiad ar gyfer y galon a symudiad arall ar gyfer y stumog.

"Beth sydd hefyd yn help wrth i chi fynd yn hŷn yw ei fod e hefyd yn helpu gyda'r balans."

Er nad yw Diana ar restr aros am driniaeth ar hyn o bryd mae'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwneud cymaint a gallan nhw i atal afiechyd a chadw'n heini i geisio lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd.

"Ma' pobl yn fwy ymwybodol erbyn hyn o bethau i helpu i'w cadw'n iach oherwydd does neb am fynd mewn i'r ysbyty os nad oes rhaid," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cyfle i "arafu ac anadlu" yn llesol, meddai Linda Loveless

Dywedodd Linda Loveless ei bod wedi bod yn aros am flwyddyn am bigiadau steroid i helpu gyda phroblem asgwrn cefn.

"Rwy'n gweld bod dod yn rheolaidd i'r dosbarth yn helpu - rydw i mewn poen ond erbyn diwedd y dosbarth awr mae'r boen wedi lleddfu.

"Mae gen i asthma hefyd ac rwy'n gweld ei fod yn helpu gyda'r anadlu - mae'r amser i arafu ac anadlu yn gwneud llawer o les i chi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein buddsoddiad sylweddol mewn gwella o driniaeth sydd wedi ei drefnu yn helpu byrddau iechyd dros Gymru i ddatblygu ystod o fesurau fydd yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau a chael cymorth pan mae ei angen."