Cyhoeddi gemau cyntaf Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Isaak Davies o dîm Caerdydd yn cael ei herio gan Ben Cabango ar ran yr ElyrchFfynhonnell y llun, Athena Pictures

Fe fydd Caerdydd yn croesawu Norwich, a ddisgynnodd o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, i'r brifddinas yn eu gêm gyntaf yn nhymor newydd y Bencampwriaeth.

Oddi cartref mae gêm gyntaf Abertawe, gyda thaith i Rotherham United i'r Elyrch ar 30 Gorffennaf.

Fe fydd y gêm ddarbi gyntaf rhwng clybiau de Cymru yn Abertawe ar 22 Hydref, a'r ail gêm yng Nghaerdydd ar 1 Ebrill.

Yn Adran 2, mae Casnewydd yn dechrau eu tymor yn Sutton, cyn croesawu eu cyn-reolwr Mike Flynn a Walsall wythnos yn ddiweddarach.

Dyma fydd y tro cyntaf i Flynn ddychwelyd i Rodney Parade fel rheolwr ers gadael yr Alltudion.

Fe fydd tymor y Bencampwriaeth yn dechrau wythnos yn gynt na'r arfer, ac yna'n cael seibiant rhwng 12 Tachwedd a 10 Rhagfyr - adeg Cwpan y Byd.

Ni fydd seibiant i gemau adrannau 1 a 2.

Fe fydd y tymor yn dod i ben ar benwythnos 6 Mai, gyda rowndiau terfynol y gemau ail-gyfle ar 27-29 Mai.