Estraddodi dyn o’r Almaen sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n cael ei amau o lofruddiaeth yng Nghaerdydd wedi cael ei estraddodi o'r Almaen i'r DU a'i gadw yn y ddalfa gan Lys Ynadon Caerdydd.
Mae Hysland Aliaj, 31, wedi'i gyhuddo o lofruddio Tomasz Waga, 23, ar 28 Ionawr 2021.
Cafodd corff Mr Waga ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd yn ardal Pen-y-lan.
Fe gafodd Mr Aliaj ei arestio yn Yr Almaen cyn cael ei estraddodi dechrau Mehefin.
Bydd Hysland Aliaj yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 22 Gorffennaf.
Mae wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol a chynllwynio i gynhyrchu canabis.
Mae pedwar dyn arall eisoes wedi'u cyhuddo yn ymwneud â llofruddiaeth Mr Waga.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021