Tour de France: 'Gŵyl o genhedloedd bychain'
- Cyhoeddwyd
Gŵyl fawr yw'r Tour de France. Gŵyl flynyddol sy'n ddathliad o'r ddwy olwyn ac o Ffrainc; yn llawn angerdd a diwylliant; yn llwyfan i arwyr a phencampwyr.
Mae hefyd yn ŵyl o genhedloedd bychain; yn blethwaith o ddiwylliannau gwahanol a grëir gan gynrychiolwyr o tua 30 o wledydd gwahanol.
Ond nid felly y bu hi, ac mi gymerodd 74 rhediad o'r Tour er mwyn cael buddugwr y tu hwnt i gadarnleoedd y gamp; Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Gwlad Belg, y Swistir, Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd.
Torrwyd y patrwm pan enillodd yr Americanwr Greg LeMond a'r Gwyddel Stephen Roche yn yr wythdegau, ac yn y degawd diwethaf, dim ond un reidiwr o'r cadarnleodd hynny sydd wedi dod i'r brig. Does dim Ffrancwr wedi ennill ers 1985.
Y cenhedloedd bychain
Bydd Tour de France 2022 yn dechrau yn Nenmarc; cenedl sy'n gymharol fechan o ran ei phoblogaeth sy'n llai na chwech miliwn. Er fod seiclo wedi bod yn rhan annatod o ddiwylliant Denmarc ar lawr gwlad ers tro byd, cododd proffil y gamp yno yn aruthrol pan enillodd Bjarne Riis y Tour yn 1996.
Ers hynny, mae'r wlad wedi cynhyrchu llif cyson o seiclwyr proffesiynol o'r radd flaenaf, a'r peloton presennol yn enwedig yn frith o Ddaniaid.
Mae Jonas Vingegaard, sy'n dod o ranbarth gogleddol y wlad, yn un o'r prif ffefrynnau ar gyfer y ras eleni ac yntau'n ddringwr cryf orffennodd yn ail y llynedd.
Wedi i'r Tour dreulio'r tridiau cyntaf yn Nenmarc, gan gynnwys diwrnod agoriadol yn y brifddinas København, byddant yn cychwyn ar eu taith glocwedd o ogledd ddwyrain Ffrainc ddydd Mawrth.
Ond nid dyna ddiwedd rhan y cenhedloedd bychain yn route y Tour. Ceir ymweliad â Wallonia ar gymal chwech, cenedl â phoblogaeth o 3.6 miliwn sy'n fwy adnabyddus am ffurfio'r rhan Ffrangeg ei hiaith o Wlad Belg. Bydd rhannau helaeth o gymalau wyth a naw yn y Swistir - ddim yn genedl fechan felly ond yn dal i fod â phoblogaeth llai na naw miliwn.
Wedi hynny, bydd de Ffrainc yn cymryd y sylw wrth i'r peloton nadreddu drwy'r Alpau, y Languedoc a'r Pyrénées cyn gorffen ar y Champs Élysées yn Paris fel sy'n arferol.
Ar y lonydd hynny, daw cyfle i genhedloedd bychain eraill serennu.
Slofenia
Ers y pandemig, mae'r ddau Tour de France wedi cael eu meddiannu gan Slofeniaid. Dau ohonyn nhw, wedi eu geni a'u magu yn y wlad fynyddig yng nghornel de-ddwyrain yr Alpau sydd â phoblogaeth o ychydig dros ddwy filiwn.
Y cyntaf ohonyn nhw yw Primož Roglič, reidiwr cyflawn sy'n ennyn tipyn o sylw am ei gefndir fel sgi-neidiwr. Mae o newydd ennill y Critérium du Dauphiné, y ras gynhesu bwysicaf cyn y Tour, ac yn naturiol felly'n un o'r prif ffefrynnau ar gyfer y ras.
Mi ddaeth yn ail yn 2020, wedi i'w gyd-wladwr Tadej Pogačar ddwyn y crys melyn oddi ar ei ysgwyddau yn y ras yn erbyn y cloc ar y cymal olaf ond un.
Y diwrnod hwnnw, sefydlwyd y Slofeniad hwn fel talent unwaith-mewn-cenhedlaeth; pencampwr newydd seiclo. Aeth ymlaen i adeiladu ar hynny gan ennill Tour 2021 yn hynod gyfforddus.
Ac yntau hefyd wedi profi ei allu dringo eto y tymor hwn gyda buddugoliaethau nodedig ym mhedwar ban byd, yn ogystal â magu profiad mewn amrywiaeth eang o rasys, mae'n glir mai Pogačar yw'r prif ffefryn ar gyfer Tour de France 2022.
Ond mae'n rhaid trafod un cenedl fechan arall.
Cymru
Cenedl y Cymry wrth gwrs, a'i phoblogaeth o tua tair miliwn. Eisoes wedi ennill y Tour drwy Geraint Thomas yn 2018, ac mae'r gŵr 36 oed o Gaerdydd unwaith eto ymysg y ffefrynnau ar gyfer y ras eleni.
Hynny'n rhannol wedi iddo ddod i'r brig yn y Tour de Suisse yn ddiweddar mewn perfformiad wnaeth argyhoeddi. Llwyddodd i gadw'n agos at flaen y ras ar y cymalau dringo, ac amseru'i ymdrech yn berffaith er mwyn rhoi perfformiad cryf yn y ras yn erbyn y cloc ar y diwrnod olaf i gipio'r fuddugoliaeth.
Nid Geraint oedd yr unig Gymro i lwyddo'n y Swistir, wrth i Stevie Williams o Aberystwyth ennill y cymal cyntaf a chipio crys melyn cynta'r ras. Roedd hi'n ras wahanol i'r disgwyl fodd bynnag, wrth i 78 o reidwyr orfod gadael y ras yn sgil achosion o Covid.
Ond dydy hynny ddim yn iselhau arwyddocâd buddugoliaeth Geraint. Mi ddaeth y Cymro cyntaf a'r reidiwr hynaf erioed i ennill y ras, ac roedd ei ystadegau pŵer yn cymharu'n agos iawn â'r rhai recordiodd pan enillodd y Tour yn 2018.
Er nad y Tour de Suisse yw'r ras bwysicaf ar drothwy'r Tour, mae'n ychwanegiad gwerthfawr at ei restr buddugoliaethau. Dim ond un reidiwr arall yn hanes y gamp sydd wedi ennill y Tour, y Critérium du Dauphiné a'r Tour de Suisse yn ei yrfa, a hwnnw oedd y reidiwr ystyrir y gorau erioed, Eddy Merckx.
Mae pethau'n argoeli'n dda iddo, does dim dwywaith am hynny. Er y bydd yn rhaid iddo rannu arweinyddiaeth y tîm gyda dau ddringwr cryf arall yn Adam Yates a Dani Martínez, mae ganddo brofiad dihafal o'r Tour de France, ac mae'n arbenigo yn y ras yn erbyn y cloc ac yn amgylchiadau beichus crynfeini'r gogledd ddwyrain.
Bydd hefyd angen iddo aros ar ei feic, wrth gwrs, sy'n haws dweud na gwneud o'i safbwynt o.
Does dim amau y bydd baneri'r cenhedloedd bychain - Denmarc, Slofenia, Cymru a mwy - yn cyhwfan yn uchel ar lonydd y Tour eleni.
A does dim amau chwaith fod y cenhedloedd bychain hyn yn cyflawni y tu hwnt i'w gorwelion, gan gyrraedd yr un uchelfannau â chenhedloedd llawer mwy.