Ar dy feic: 10 dringfa orau Cymru
- Cyhoeddwyd
Gyda'r gwanwyn wedi cyrraedd a'r clociau wedi troi bydd llawer wedi mynd i estyn y beic o gefn y sied yn barod i grwydro.
Gyda Chymru yn wlad fynyddig tu hwnt mae llethrau lu o gwmpas y mwyafrif ohonom ac mae cyrraedd yr uchelfannau hyn yn ein cyflwyno i olygfeydd godidog.
Gruffudd ab Owain o flog Y Ddwy Olwyn sy'n ein cyflwyno i rai o ddringfeydd gorau'r wlad.
Does dim byd sy'n crisialu'r wefr o fynd allan ar ddwy olwyn yn fwy na'r dringfeydd. Y gwaith caled i esgyn i'w brig, ond y gorfoledd o gyrraedd a gwerthfawrogi'r tirlun mawreddog o'n cwmpas cyn mwynhau'r disgyniad.
Bron bod y dringfeydd hyn hefyd wedi bod yn gaeafgysgu, â hwythau'n aml dan flanced o rew neu eira dros y misoedd diwethaf - ac er na wna un wennol wanwyn, mae'r amser yn sicr wedi dod i brofi gwefr o oresgyn ein dringfeydd unwaith yn rhagor.
Dyma ymgais i gloriannu'r ddeg dringfa orau i seiclwyr, wedi'u trefnu o'r gogledd i'r de.
Marchlyn Mawr
Pa le gwell i ddechrau na gyda'r ddringfa darmac uchaf yng Nghymru, a gorau oll, mae'n ffordd sydd ar gau i geir. Mae'r ddringfa i Marchlyn yn esgyn o Ddeiniolen i uchder o dros 2,000 troedfedd, a cheir golygfeydd penigamp tuag at gopaon mwyaf mawreddog Eryri wrth gyrraedd y brig.
Stwlan
Un arall o'r dringfeydd diarffordd hynny sy'n cynnig profiad ymhell o brysurdeb unrhyw draffig yw'r ddringfa i lyn Stwlan uwch Tanygrisiau ym Mlaenau Ffestiniog. Mae'n aml wedi'i gynnwys ymysg dringfeydd gorau Prydain, heb sôn am Gymru, diolch i'r tarmac llyfn a chyfres o fachdroeon tynn sy'n atgoffa rhywun o fod yn yr Alpau.
Bwlch yr Oernant
Yn drydydd ar y rhestr o ddringfeydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru mae Bwlch yr Oernant, sy'n adnabyddus am ei thro pedol nodedig sy'n dod heb fod ymhell o'r copa. O Langollen, gellir cymryd y brif ffordd sydd yn fwy poblogaidd, neu gymryd y ffordd gefn tawelach.
Bwlch y Groes
Pleidleiswyd Bwlch y Groes i frig y rhestr o ddringfeydd mwyaf eiconig Cymru yn 2020. Er fod y ddringfa o Lanuwchllyn neu o Lyn Efyrnwy'n addas i bron bob lefel gallu fel rhan o Route 12 sydd hefyd yn dringo'r Hirnant, y ddringfa o Lanymawddwy sy'n destun poblogrwydd ac ofn ymysg seiclwyr. Fe'i ddisgrifir fel y stribyn parhaol o darmac serthaf ym Mhrydain gyfan.
Nant y Moch
Does dim geiriau i ddisgrifio'r pleser y ces i wrth ddringo i gronfa ddŵr Nant y Moch am y tro cyntaf yn yr haf y llynedd. Mae'n rhyfeddol pa mor sydyn y gallwch chi ddianc o brysurdeb y brif ffordd A487 i dirwedd gwyllt ac anghysbell yr Elennydd; dringfa ddigon hamddenol sy'n sicr yn crisialu pleser dwy olwyn.
Bwlch yr Efengyl
Gan groesi o'r gorllewin i'r dwyrain nesaf at ddringfa Bwlch yr Efengyl (Gospel Pass) sy'n hawlio teitl bwlch uchaf Cymru. Mae'n aml yn rhan o routes sy'n dilyn cwrs o'r gogledd i'r de neu vice versa, gydag un droed yn y Gelli Gandryll a'r llall yng Nghapel y Ffin, a'r copa yng nghanol y Mynyddoedd Duon.
Y Tymbl
Y Tymbl yw dringfa fwyaf poblogaidd Cymru o ran y nifer o bobl sydd wedi'i choncro a'i recordio, ond nid dringfa i'r gwangalon mohoni chwaith. Mae'r ddringfa o'r Fenni'n ymddangos yn aml mewn rasys Prydeinig uchel eu parch, yn bennaf gan ei fod yn hirach ac yn serthach na'r ochr gyferbyniol o Flaenafon.
Rhigos
Un o grŵp dethol iawn o ddringfeydd sy'n rhan o restr y dringfeydd mwyaf poblogaidd, y dringfeydd uchaf a'r dringfeydd mwyaf eiconig yng Nghymru. Ar ben hynny, bu'n feithrinfa i'n seiclwyr mwyaf llwyddiannus. Gellir dringo i'r copa o Hirwaun neu o bentref Rhigos, a dydy'r graddiant ddim yn bygwth yn ormodol.
Bwlch y Clawdd
Clywir y ddringfa hon yn cael ei thalfyrru i 'Bwlch' yn amlach na pheidio, ac mae'n un arall o ddringfeydd 'defodol' Geraint Thomas. Gellir ei hesgyn o dri chyfeiriad - o Nant y Moel, Cymer neu Dreorci; mae'r graddiant yn ddigon cyson gan fwyaf ond ceir ambell frathiad cas i'r coesau mewn mannau.
Mynydd Du
I gloi, rydyn ni'n symud i sir Gâr; sir sy'n prysur wneud enw i'w hun o ran hybu seiclo. Lleolir y ddringfa hon yng nghornel isa'r rhanbarth, ac eto mae'n un o'r dringfeydd mwyaf poblogaidd a'r uchaf yng Nghymru. Mae'r ddringfa'n cychwyn yng Ngwaun Cae Gurwen, gan esgyn i uchder o bron i 500m ar raddiant o 5%.
'Ewch i grwydro'
Dyna ddiwedd y wibdaith drwy ddetholiad - a detholiad yn unig - o ddringfeydd gorau Cymru, sy'n cynnig ystod eang o opsiynau i unrhyw seiclwr. Ewch i grwydro; mae'r gwanwyn ar gyrraedd, tymor y gobaith a chyfle i edrych ymlaen at ddigon o gyfleon i fentro i uchelfannau Cymru.
Pwy sydd angen Alpe d'Huez a'r Ventoux pan fo cymaint i'w goncro'n ein cenedl ein hunain?!
Hefyd o ddiddordeb: