Gwyliau cymunedol 'yn bwysicach nag erioed' wedi'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gŵyl y FelinheliFfynhonnell y llun, Gŵyl y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Yr hyn sy'n denu'r torfeydd yn ôl i Ŵyl y Felinheli yw bod digwyddiadau at ddant pawb, medd y pwyllgor

Wedi ei nythu rhwng Bangor a Chaernarfon, hawdd iawn fyddai i rywun yrru heibio pentref Y Felinheli heb sylwi ei fod yno.

Ers codi'r ffordd osgoi gerllaw mae llif y traffig wedi gostegu'n sylweddol ond mae ysbryd cymunedol y pentref yn dal i ffynnu.

Ac ar lannau'r Fenai bob blwyddyn daw pabell wen gyfarwydd a channoedd o fflagiau coch, gwyn a gwyrdd i'r fei, yn nodi fod Gŵyl Y Felinheli yn ôl.

Wedi seibiant annisgwyl y pandemig mae trefnwyr yn dweud bod yr ŵyl hon, a gwyliau cymunedol tebyg, yn bwysicach heddiw nag erioed.

'Hwb i'r galon wedi sawl her'

Dydi trefnu gŵyl sy'n denu cannoedd o bobl i un safle ddim yn beth hawdd, ac wrth ailgydio yn yr awenau mae'r pwyllgor yn dweud bod 'na nerfusrwydd a chynnwrf wrth groesawu pobl yn ôl.

Ers cynnal yr ŵyl ddiwethaf mae lot wedi newid a "sawl her" wedi bod, yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Osian Wyn Owen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna rwydwaith o gefnogaeth o fewn y gymuned leol, medd Osian Wyn Owen

"'Da ni 'di colli lot o bobl sy'n annwyl iawn. Lot fawr o gymeriadau wedi ein gadael ni," meddai.

"Ond mae pentref fel Y Felinheli... 'da ni'n rhwydwaith o gefnogaeth i'n gilydd."

Tra bod yr heriau amlwg hynny wedi bodoli ar draws Cymru, mae 'na gryn edrych 'mlaen at ddenu'r torfeydd yn ôl i'r babell wen yn ystod yr ŵyl wyth diwrnod.

"Mae dod 'nôl, mae'n hwb i'r galon," meddai Osian.

"Mi oedd 'na lot o bryder am gael pobl yn ôl. Mae 'na lot o nerfusrwydd dal ond o fewn yr hanner awr gyntaf mi oedd y babell yn orlawn!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gryn edrych ymlaen at lenwi'r babell wen drwy'r ŵyl wedi dwy flynedd segur

Yr hyn sy'n denu'r torfeydd yn ôl i Ŵyl y Felinheli yw bod digwyddiadau at ddant pawb, medd y pwyllgor - bingo, 'Stŵr wrth y Dŵr' a'r Sioe Blant yn eu plith.

Mae modd olrhain hanes a tharddiad yr ŵyl i'r Regata gyntaf ym 1873, ond go brin fod yr un cyfnod wedi profi her mor sylweddol â'r pandemig, gyda'r trefniadau ar stop yn llwyr.

Roedd nifer o ymwelwyr selog y digwyddiadau'n brwydro ar y rheng flaen - gan gynnwys athrawon, meddygon a nyrsys.

Ac yn eu plith roedd Charlotte Makanga - fferyllydd ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a fu'n dosbarthu brechlynnau yn Ysbytai Enfys yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Makanga wrth ei bodd bod normalrwydd wedi dychwelyd ar ôl cyfnod heriol y pandemig

Mae'r sefyllfa erbyn heddiw yn dra gwahanol i'r llynedd, meddai, a chael dychwelyd i'r ŵyl a gweld hen ffrindiau yn brawf o waith caled miloedd dros gyfnod y pandemig.

"Dwi'n cofio reit yn dechrau pan wnaethon ni ddechrau'r brechlyn lawr yn Venue Cymru, o'dd hi mor neis gweld pobl - rhai pobl heb fod allan am mor hir," meddai.

"A rŵan 'da ni'n gallu cymysgu, gallu dod allan i bethau fel Gŵyl y Felin i ni gael dathlu. Ma'n grêt i'r plant ac i bawb fod efo'i gilydd.

"Normality - bod yn normal a bod allan yn yr haul!"

Un enghraifft ydy Gŵyl Y Felinheli o sut mae cymunedau wedi goroesi un o gyfnodau mwyaf heriol eu bodolaeth, ac mae hynny i'w weld ar draws Cymru.