Dod yn dad yn rhoi 'bywyd newydd' i Aled Haydn Jones
- Cyhoeddwyd
"Mae'r broses IVF wedi bod yn un dorcalonnus, llawn troeon trwstan emosiynol ac yn gwneud i ni gwestiynu popeth a gofyn, ydy ni byth yn mynd i gael teulu'n hunain?"
Bydd nifer yn medru uniaethu gyda phrofiad pennaeth gorsaf BBC Radio 1, Aled Haydn Jones, a'r siwrne boenus i fod yn rhiant.
Mae Aled a'i bartner, Emile Doxey, wedi troi at help mam fenthyg i wireddu eu breuddwyd i fod yn rhieni.
Ac yn y rhaglen DRYCH: Ti, Fi a'r Babi ar S4C, cawn weld breuddwyd y ddau yn cael ei wireddu wrth i'w mam fenthyg, Dawn Allen o Swydd Derby, roi genedigaeth i'w mab bach Luca ar ôl i'r tri cynnig cyntaf ar IVF i fethu.
'Newid byd'
Meddai Aled, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Llundain, am ei newid byd ers dod yn dad: "Mae bywyd wedi mynd o 0 i 100 dros nos.
"Beth mae fi a Emile yn siarad amdano nawr yw'r logistics o gwmpas Luca.
"Ac mae Dawn wedi rhoi lot o le i ni ddelio efo bywyd newydd ni. Mae hi'n mynd i fod yn Anti Dawn ac ni moyn cadw'n agos iddi hi fel bod hi o gwmpas Luca fel bod e'n tyfu lan - fel bod e'n deall beth sy' wedi digwydd.
"Mae Dawn yn dweud bod hi ddim mynd i fod yn babysitter ond mae moyn aros yn ein bywyd ni - ac mae hynny'n bwysig i fi ac Emile hefyd."
Magu babi
Bydd nifer o rieni newydd yn medru uniaethu gyda geiriau Aled am y misoedd cyntaf o fagu babi: "Er bod ni'n meddwl yn ein 40au fod mwy o fywyd dan y belt 'da ni felly ni'n gwybod be ni'n neud, dyw hynny ddim wedi troi mas i fod yn wir o gwbl - 'sdim cliw 'da ni fel unrhyw un arall!
"Felly mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn rial sioc i'r system.
"Ond dwi'n lwcus iawn bod Emile mor dda 'da Luca ac wedi rhoi lle i fi ganolbwyntio ar waith. Mae'r ddau ohono ni'n neud yn siŵr bod Luca'n cael popeth mae e moyn.
"Dwi'n ffonio ffrindie lan i ofyn, 'Pryd mae'r darn prysur yn mynd i stopio?' a maen nhw i gyd yn chwerthin a'n mwynhau dweud '18 falle?'
"Dwi dal yn edrych am y person sy'n mynd i ddweud bod e'n mynd i fod yn haws ar ôl y nawfed mis neu'r blwyddyn cyntaf."
Ymdopi gyda'r siom
Daeth y newyddion fod Dawn yn feichiog ar ddiwedd 2021 ar ôl sawl siom dros dair blynedd o geisio am fabi, yn ôl Aled: "'Oedd e mor anodd - o'n i'n meddwl bydde fe fel colli swydd. le chi'n siomedig ond chi'n pigo'ch hun lan a symud ymlaen. Ond oedd hwn yn effeithio'n fawr ar y tri ohonon ni.
"'Nes i ffeindio fy hun ddim yn sicr o beth o'n i'n neud 'da gwaith, 'da bywyd, pwy ydw i fel person - oedd e'n effeithio arno fi fel 'na. O'n i ddim yn disgwyl 'na.
"Chi'n dod i sylweddoli faint mae'n curo chi reit lawr i'r bôn os chi'n methu cael plentyn - os chi'n ffaelu ar hwnna, beth mae'n dweud amdano chi? A fel chi'n gweld eich hun fel oedolyn neu person - sydd yn rili drwm."
Mam fenthyg
Roedd mudiad SurrogacyUK yn gefn i'r ddau yn ystod y broses ac yn cynghori fod Aled ac Emile yn dod yn ffrindiau gyda'u mam fenthyg Dawn.
Meddai Aled: "Bydde fi ac Emile wedi stryglo i fynd trwy IVF yn yr un ffordd mae gymaint o cyplau yn mynd trwyddo.
"Ond fan hyn mae 'na rhywun newydd sy'n ffrind newydd ac mae'n rhaid delio efo'r siom hwn efo'r person newydd ac 'oedd hwnna'n anodd - chi ddim fel arfer yn gorfod delio efo pethau mor drwm efo ffrindiau newydd."
Mae perthynas dda gan y ddau gyda Dawn ar ôl bod trwy profiad mor unigryw: "Ni'n agos iawn - er ni ddim ar y ffôn bob diwrnod fel oedden ni wedi meddwl fydden ni achos mae babi gyda ni nawr!"
Ffilmio'r profiad
Penderfynodd Aled ac Emile ffilmio eu siwrne i ddod yn rhieni yn wreiddiol ar gyfer rhaglen DRYCH: Ti, Fi a'r Fam Fenthyg, a ddarlledwyd yn Chwefror 2021, oedd yn dangos sawl ymgais IVF yn methu a'r pâr bron a digalonni.
Mae'r ail raglen yn gwbl wahanol yn ôl Aled: "Dyma'r rhaglen o'n i 'di gobeithio gwneud pan natho ni ddechre ffilmio reit ar y dechre. Ond wrth gwrs 'nath y rhaglen gyntaf stopio ar ôl y trydydd go o IVF ac on i'n gutted - o'n i ddim moyn i'r rhaglen fod am y cymhlethdod o gwmpas IVF.
"Mae'n rhwbeth sy' mor bersonol i bobl. Pan chi'n gweld pobl ar ddiwedd IVF yn disgwyl neu cael babi maen nhw dim ond yn gweld y stori sy' 'di mynd yn dda a'n llwyddiannus felly mae pawb yn dechre meddwl bod e'n mynd i fynd yn llwyddiannus iddyn nhw.
"Felly pan maen nhw'n cael trafferthion maen nhw'n meddwl 'beth sy'n bod arno fi? Pam mae hwn ddim 'di gweithio i fi?'"
Luca
Mae diwedd hapus i stori Aled, Emile a Dawn gyda Luca'n dod â phleser mawr i'r ddau: "Dyma bersonoliaeth Luca - mae fe'n faban sy'n chwerthin lot. 'Ry'n ni mor lwcus.
"Nathon ni fynd â Luca i Singapore i gwrdd â teulu Emile a 'nath e gysgu yr holl ffordd - a'r ffordd nôl.
"Nath e gwrdd â'r teulu i gyd - wedes i wrtho fe cyn cyrraedd, 'mae 'na un swydd 'da ti sef bod yn ciwt a chwerthin'. A dyna beth wnaeth e."
Rhannu'r stori
Mae Aled yn disgrifio'r flwyddyn ddiwethaf fel 'blur': "Dwi'n gweld ffotos o'r saith mis diwethaf a dwi ddim yn cofio nhw'n digwydd. Mae'n anhygoel beth ni wedi bod trwyddo efo Dawn gyda Luca'n dod yn gynnar a'r cymhlethdod gafo ni efo Luca'n cael ei eni.
"Mae'n mynd i fod yn neis i wylio'r rhaglen nôl i weld beth yn union aethon ni drwyddo - mae rhannu hynny gyda pawb yn mynd i fod yn sbeshal iawn.
"O'n i ddim yn siŵr sut fyddai pobl yn cymryd y rhaglen ac mewn ffordd dyna un o'r rhesymau pam nes i neud e.
"Mae angen i bobl ddod yn gyfforddus efo'r taith sy' angen i rhai pobl i gael plant - tair blynedd yn ôl pan o'n i moyn neud hwn a chael teulu, doedd dim syniad 'da fi beth oedd y daith o'n i angen gymryd.
"Felly dwi'n gobeithio fod pobl yn mynd i weld hwn a meddwl, oce mae hwnna'n rhywbeth sy'n teimlo'n iawn i neud a fi ishe neud e.
"Ni'n cwpl hoyw a dwi wedi dod o dref weddol bach ac hefyd mae mynd trwy surrogacy yn rhywbeth gwahanol ac mae 'na lot o bobl efo lot o meddyliau am y ddau bwnc.
"Felly mae rhoi e i gyd mewn un rhaglen yn ddiddorol. Mae fe'n onest, warts and all - dyna popeth 'nath ddigwydd. Felly os oes pobl yn dod i ffwrdd gyda meddyliau positif am y pwnc, mae hynny'n ffantastig."
Gwyliwch DRYCH: Ti, Fi a'r Babi ar nos Fawrth 28 Mehefin am 21.00.
Hefyd o ddiddordeb: