'Mynydd i'w ddringo' cyn atal heintiau HIV newydd
- Cyhoeddwyd
Mae "mynydd i'w ddringo" er mwyn atal heintiau HIV newydd yng Nghymru erbyn 2030, yn ôl ymgyrchydd blaenllaw.
Dywed Martyn Butler OBE, un o sylfaenwyr y Terrence Higgins Trust, bod "yr holl arfau" ar gael, ond bod "llawer iawn o waith i'w wneud o hyd".
Daw ei sylwadau wrth i'r elusen nodi 40 mlynedd ers marwolaeth Terry Higgins, un o'r bobl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i farw o salwch yn ymwneud ag AIDS.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwneud "cynnydd aruthrol o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru".
Ers sefydlu'r ymddiriedolaeth gyda phartner Terry, Rupert Whitaker, mae Martyn Butler wedi bod yn ymgyrchydd ddiflino gan helpu i godi ymwybyddiaeth o HIV ac AIDS.
Dechreuodd y gwaith yn dilyn marwolaeth ei ffrind agos, Terry Higgins, yn 1982.
Fe gafodd Mr Butler ei eni a'i fagu yn Pil yng Nghasnewydd.
Fe wnaeth o gyfarfod â Terry am y tro cyntaf mewn clwb nos yn Llundain.
"Roedd Terry Higgins yn ei chanol hi," cofiodd Mr Butler.
"Roedd ei ddawnsio'n ryfeddol. Fe oedd y 'dad-dancer' gwreiddiol. Doedd dim siâp arno, roedd e dros y siop i gyd, ond yn odidog hefyd!"
'Dim rhybudd'
Symudodd Terry i Lundain o'i gartref yn Hwlffordd yn ei arddegau.
"Roedd Terry'n halen y ddaear ac yn hollol Gymreig," ychwanegodd Mr Butler.
Mae Mr Butler, sydd wedi derbyn OBE am ei waith elusennol, yn disgrifio Terry fel un diwylliedig, doniol, "hynod o hael" a "daredevil llwyr".
"Roedd ganddo ffordd o edrych ar ôl pobl. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod o'n edrych ar fy ôl.
"Pan fu farw Terry, daeth gymaint o bobl ata i a dweud ei fod yn gwneud yn union yr un peth iddyn nhw."
Ar ôl cael HIV, bu farw Terry Higgins o salwch yn ymwneud ag AIDS ar 4 Gorffennaf 1982. Ef oedd un o'r bobl gyntaf i farw o salwch yn ymwneud ag AIDS yn y Deyrnas Unedig.
"Doedd neb ohonom yn disgwyl iddo fo fynd, roedd fel damwain car. Doedd dim rhybudd," meddai Mr Butler.
'Meddwl y byddai'n hawdd'
Yn ystod dyddiau cynnar y Terrence Higgins Trust, roedd nifer yn anfodlon i wrando ar eu rhybuddion a'u cyngor, yn ôl Mr Butler.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai'n hawdd iawn cael y neges allan yna.
"Ond pan o'n i'n ceisio mynd â'r neges mas 'na am ryw diogel, ro'n i'n cael fy ngwrthod yn llwyr.
"Fe ges i fy nhaflu allan o dafarndai a chlybiau gyda fy nhaflenni," meddai.
Roedd rhagfarnau'r cyfnod yn anodd hefyd, yn ôl Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Iris.
"Doeddet ti bron iawn ddim yn dweud y gair 'hoyw' bryd hynny," meddai.
"Mi oedd 'na lot o eiriau hyll roedd pobl yn eu ddefnyddio.
"Ddes i delerau efo'r ffaith mod i'n hoyw.
"Ac yn sicr am tua dwy, tair blynedd, doeddwn i ddim mewn gwirionedd yn licio be oeddwn i.
"Byddwn i wedi gwneud unrhyw beth i beidio bod yn hoyw."
Mae Mr Rowlands yn cofio'n glir yr eiliad cyntaf iddo glywed am AIDS.
"Mi oedden ni'n lolfa'r chweched ac roedd Elin Llwyd Morgan yn gwneud Lefel A Ffrangeg, ac mi oedd ganddi gylchgrawn.
"Ac ar glawr y cylchgrawn yma oedd llun: dyn dwi'n meddwl oedd o, ond mi oedd o mor... esgyrn i bob pwrpas oedd o a dipyn o gnawd. Ac mi oedd o efo'r cyflwr yma.
"Nid AIDS oedd o'n cael ei alw bryd hynny. Ond yn sicr dwi'n cofio'r sgwrs yn mynd "o ia, mae o'n effeithio bobl hoyw.
"'Naeth hwnna… nid yn unig bo' ti'n gorfod delio efo'r ffaith bod ti'n hoyw ond oeddet ti'n debygol o farw, hefyd. Mi oedd hwnna'n ysgytwad. Mi oedd o fel bod rhywun wedi dy saethu di, i fod yn onest."
'Dirywio'n gloi eithriadol'
Symudodd Lindsay, brawd Miranda Morton, o Ben-y-bont ar Ogwr i fyw yn Llundain ar ddiwedd yr 1980au.
"Doedd e ddim yn ffitio mewn," meddai Ms Morton.
"Un o'r pethau wnaeth ddigwydd oedd ei fod e'n dod adref rhyw dro gyda'i gitâr, ac oedd 'na ryw rai wedi ymosod arno fe a wedi malu'r gitâr.
"Dyna un o'r pethau wnaeth eu sbarduno fe i gefnu ar Ben-y-bont ar Ogwr."
Dywed Ms Morton bod symud i Lundain wedi newid bywyd ei brawd.
"Roedd o wedi blodeuo," meddai.
"Roedd e'n gwisgo yn lliwgar iawn wastad, ac roedd o a'i bartner busnes yn rhedeg cwmni oedd yn darparu dillad lledr a rwber ac oedd e weithia'n gwisgo'i ddillad ei hun."
Mae hi'n dweud bod ei brawd wrth ei fodd gyda bywyd nos y ddinas.
"Oedd e'n byw a bod yn y clybiau, dyna sut ddaeth e i nabod KLF a nhw 'naeth y gerddoriaeth yn ei angladd, chwarae teg."
Ym 1993 fe gafodd Ms Morton wybod bod Linsday yn sâl.
"Ffonio wnaeth e - a gweud bod HIV arno fo - a bod e'n mynd i waethygu ond ar y pryd, ond am sbel hir, oedd e'n edrych yn iawn ac yn gymharol iach," meddai.
"Fe wnaeth e ddirywio yn gloi eithriadol nes bod e'n gaeth i'w wely ac wedi colli'i olwg mewn un llygad.
"Dwi ddim yn cofio'n glir ond be' dwi yn cofio ydi jesd ar ôl y galwad ffôn eistedd yno yn meddwl, hel meddylie, ie.
"Wrth gwrs bo' fi mewn rhyw fath o sioc, ond i jyst yn trio derbyn y wybodaeth."
Deufis yn ddiweddarach, ag yntau ond yn 36 oed, bu farw Lindsay.
'Mae'r holl arfau ar gael'
Ddeugain mlynedd wedi marwolaeth Terry Higgins, mae'r ymddiriedolaeth gafodd ei sefydlu yn ei enw, yn parhau i ymgyrchu ac yn cefnogi unigolion sydd â HIV.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu heintiau HIV newydd yng Nghymru erbyn 2030.
Mae'n uchelgais sy'n cael ei groesawu gan Martyn Butler, er ei fod yn credu bod llawer o waith i'w wneud o hyd.
"Mae'r holl arfau sydd eu hangen ar gael i ni," meddai.
"Hoffwn i allu dweud y gallwn ei wneud yng Nghymru a dangos ei fod yn gweithio mewn mannau eraill.
"Mae yna fynydd i'w ddringo o hyd, ond mae'r straeon i gyd yn optimistaidd," meddai.
Yn ôl data diweddaraf yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol, amcangyfrifir bod mwy na 105,000 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU, gyda bron i 2,800 o'r rheini yng Nghymru.
Mae yna amcangyfrifi nad ydy rhwng 11% a 18% o'r rhai sy'n byw gyda HIV yn ymwybodol bod yr haint ganddyn nhw.
Roedd yna ostyngiad o 75% o heintiau HIV newydd rhwng 2015 a 2021, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynllun gweithredu drafft ar HIV.
Mae'n cynnwys gwella mynediad i PrEP, meddyginiaeth sy'n ymladd y feirws ac yn atal ei drosglwyddiad.
'Newid aruthrol'
"Mae pethau wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd," medd Dr Olwen Williams, Ymgynghorydd mewn Iechyd Rhywiol ac HIV.
"Dwi 'di bod yn gweithio yn y maes HIV ers '88 a dwi wedi gweld newid yn y triniaeth a gofal 'dan ni'n ei roi i bobl sy'n byw gyda HIV. A byw mae pobl efo HIV yn ei 'neud rŵan.
"Rŵan os ydi rhywun yn cael prawf positif 'dan ni'n eu dechrau nhw ar gyffuriau yn syth ac o fewn chwech wythnos mae nhw efo undetectable viral loads a 'dan ni'n gwybod wedyn ar ôl chwe mis, os ydyn nhw'n cadw felly, does yna ddim siawns iddyn nhw heintio neb arall."
Mae Dr Williams yn cydnabod ei bod hi a mudiadau fel y Terrence Higgins Trust wedi gorfod brwydro i dynnu sylw at y broblem dros y degawdau.
"Mae hi dal i fod yn frwydr," meddai.
"Y frwydr nesa' ydi gwneud yn siŵr bod dim achosion newydd erbyn 2030.
"I wneud hynna mae'n rhaid i ni 'neud siŵr fod pobl yn dod ymlaen i gael profion HIV. Bod pobl sy'n byw efo HIV efo undetectable viral loads a ddim yn gallu'i basio fo 'mlaen, a bod pobl sydd â risg o gael HIV yn cymryd PrEP.
"Mae ganddyn i wyth mlynedd i wneud hyn."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Gan weithio gyda phartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru ac rydym yn falch o'r gostyngiad sylweddol yn y nifer sy'n cael diagnosis newydd o HIV.
"Mae mwy i'w wneud, a thrwy weithredu'r camau hyn gallwn wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sy'n byw gyda HIV ac i ddiogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws.
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n byw gyda HIV neu sydd â phrofiad o weithio gyda phobl sydd â'r feirws i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021