Chris Gunter yn arwyddo cytundeb blwyddyn yn AFC Wimbledon
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Cymru Chris Gunter wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gydag AFC Wimbledon ar ôl i'w gytundeb gyda Charlton Athletic ddod i ben.
Gunter, 32, oedd y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau rhyngwladol i Gymru y llynedd, ac ef sy'n dal ar y brig o ran y nifer fwyaf o gapiau, gyda 109.
Bydd Gunter nawr yn gobeithio creu argraff gyda'r clwb yn Adran Un er mwyn sicrhau ei le yng ngharfan Robert Page ar gyfer Cwpan y Byd fis Tachwedd.
Dywedodd ei fod yn "gyffrous" am symud i AFC Wimbledon.
"Rwy'n gwybod beth yw'r nod i ni y tymor yma a gobeithio y gallwn ni gyflawni hynny," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022