£4m i bêl-droed llawr gwlad Cymru yn sgil Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ar eu ffordd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi dweud y byddan nhw yn rhoi £4m yn rhagor o gyllid i gyfleusterau pêl-droed llawr gwlad o ganlyniad i gyrraedd Cwpan y Byd.

Dywed CBDC mai'r nod yw "creu cenedl bêl-droed flaenllaw".

"Mae cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad ledled Cymru yn arbennig o wael, a'n prif amcan strategol yw taclo hyn nawr," medd y prif weithredwr Noel Mooney.

"Rydyn ni eisiau adeiladu clybiau llawr gwlad ledled Cymru sy'n gweithredu fel gofodau llesiant i'r gymuned, a gyrru mudiad pêl-droed Cymru yn ei flaen drwy iechyd, diwylliant, cerddoriaeth, iaith, cynaliadwyedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

"Allwn ni ddim gwneud hyn heb gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ond heddiw rydyn ni'n dangos ein hymrwymiad llwyr i daclo'r problemau cronig yng nghyfleusterau pêl-droed llawr gwlad Cymru er mwyn galluogi merched a bechgyn i chwarae pêl-droed mewn amodau addas."

Ychwanegodd mai gweledigaeth CBDC yw sicrhau fod "y gêm yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn llwyddiannus - o bêl-droed yn y parc i lwyfan y byd - Cymru leol, fyd-eang".

Disgrifiad,

'Mae angen arian, ac ymrwymiad, i wella cyfleusterau'

Ganol y mis dywedodd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod cyfleusterau pêl-droed Cymru yn wael o'u cymharu â gwledydd eraill yn Ewrop ac fe gadarnhaodd Mr Mooney bod rhai o'r cyfleusterau yn rhai trydydd byd.

Mae Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 wedi iddyn nhw drechu Wcráin o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddechrau Mehefin.

Gareth Bale, capten Cymru a oedd yn gyfrifol am y gôl a sicrhaodd y llwyddiant ac o glywed am fuddsoddiad CBDC dywedodd: "Rydyn ni mor falch bod cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn golygu y bydd clybiau llawr gwlad ledled Cymru hefyd yn elwa, wrth i CBDC gefnogi datblygiad cyfleusterau ysbrydoledig sy'n addas at y pwrpas."

Ychwanegodd llywydd CBDC, Steve Williams: "Mae ganddon ni un cyfle mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant y genedl, ar y cae ac oddi arno, drwy ddod at ein gilydd gyda'n haelodau a'n rhanddeiliaid i hyrwyddo, datblygu a gofalu am y bobl a fydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad uniongyrchol i Gymru'n chwarae yn ei chystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf ers 1958.

"Mae gwella ein cyfleusterau llawr gwlad yn hanfodol ar gyfer hyn, fel bod modd i bêl-droed a champau eraill barhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

"Dydyn ni ddim eisiau aros 64 mlynedd arall cyn i Gymru ymddangos yng Nghwpan y Byd eto."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd angen i glybiau wneud cais am grantiau drwy Gronfa Adnoddau Llaw Gwlad CBDC - cronfa sy'n cael ei chefnogi gan lywodraethau Cymru a'r DU, Chwaraeon Cymru, FIFA ac UEFA.

Ym mis Mai, cyhoeddodd CBDC gam cyntaf rhaglen Cronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad, gyda gwaith gwerth £3.2m yn dechrau ar 47 prosiect ledled y wlad.

Ychwanegodd llefarydd: "Dros yr haf ac ar ddechrau'r hydref, bydd CBDC yn cyhoeddi'r rowndiau nesaf o gyllid ar gyfer pêl-droed llawr gwlad ac fe fydd yna eglurhad ar sut gall sefydliadau wneud cais."