Y sylw'n troi at olynydd Boris Johnson - pwy sy'n y ras?

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson yn gadael Downing StreetFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'r ras i olynu Boris Johnson fel arweinydd y Ceidwadwyr a phrif weinidog y DU wedi cychwyn a hynny wedi iddo gyhoeddi ddydd Iau ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd ei blaid.

Mae Mr Johnson yn bwriadu parhau yn brif weinidog y DU tan yr hydref nes bod arweinydd newydd wedi ei ddewis.

Tom Tugendhat yw'r AS diweddaraf i ddangos diddordeb gan ymuno â'r Twrnai Cyffredinol Suella Braverman a Steve Baker, un a oedd yn bleidiol i Brexit.

Mae Mr Johnson yn gadael Stryd Downing wedi llai na thair mlynedd wrth y llyw - er i'w blaid ennill mwyafrif helaeth yn etholiad cyffredinol 2019.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd y cyn-ymgeisydd seneddol ac is-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Dr Tomos Dafydd Davies fod y cyfan yn rhyddhad.

"Mae'n siŵr y cawn ni ddatrysiad maes o law o'r meinciau cefn gan y blaid Geidwadol ynglŷn â'r amserlen [o ddewis arweinydd newydd].

"Rwy'n synhwyro o ddarllen rhwng y llinellau mai greddf ac ewyllys aelodau Ceidwadol yw ethol arweinydd cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Y Ceidwadwyr yn ennill 7 o seddi yng Nghymru wrth i Johnson sicrhau mwyafrif cyfforddus yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2019

Ychwanegodd: "Yn sicr doedd arweinyddiaeth y Prif Weinidog ddim yn gynaliadwy ac mai rhyddhad yw'r emosiwn pennaf ymysg Ceidwadwyr ar lawr gwlad fod y saga yma i weld yn dirwyn i ryw fath o derfyn.

"Rwy'n awyddus i weld y blaid Seneddol yn cynnig rhestr fer mor gyflym â phosib i'r aelodaeth ond nid ar draul mewnbwn yr aelodaeth chwaith.

"Mae yna rinweddau y byddaf i yn edrych amdano yn yr arweinydd nesa, cyfathrebwr effeithiol sy'n gallu cyrraedd rhengoedd yr etholaeth yn yr un modd â Boris Johnson. Ond yn fwy na dim rwy' am weld arweinydd sydd ag agenda bolisi uchelgeisiol a gweledigaeth."

Sut fydd y Ceidwadwyr yn dewis arweinydd?

Wedi i arweinydd y Ceidwadwyr gamu o'i swydd, mae'n rhaid dod o hyd i arweinydd newydd.

Mae'r rheolau presennol yn nodi bod yn rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth wyth Aelod Seneddol Ceidwadol er mwyn bod yn y ras.

Os oes mwy na dau AS Ceidwadol yn y ras fe fydd ASau Ceidwadol yn cynnal cyfres o bleidleisiau hyd nes mai dim ond dau ymgeisydd sy'n weddill.

  • Yn y rownd gyntaf bydd yn rhaid i ymgeiswyr gael 5% o'r bleidlais i barhau yn y ras (ar hyn o bryd cefnogaeth 18 ASau)

  • Yn yr ail rownd rhaid cael cefnogaeth o 10% (ar hyn o bryd 36 ASau)

  • Yn y rowndiau wedi hynny mae'r ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn gorfod gadael y ras.

Pan mai dim ond dau AS sy'n weddill, mae aelodau o'r Blaid Geidwadol ar draws y DU - nid dim ond ASau - yn pleidleisio dros eu dewis o arweinydd.

Pwyllgor 1922 - sef pwyllgor o ASau o'r meinciau cefn - sy'n nodi'r amserlen ac fe allai'r pwyllgor hwnnw newid y rheolau cyn i'r ras gychwyn.

Sut mae'r prif weinidog nesaf yn cael ei benodi?

Bydd y sawl sy'n ennill y ras i arwain y Ceidwadwyr yn dod yn arweinydd y blaid ac yn brif weinidog.

A fydd etholiad cyffredinol?

Nid o reidrwydd.

Pan mae prif weinidog yn ymddiswyddo, does dim rhaid cael etholiad cyffredinol.

Yr hwyraf y gall etholiad cael ei gynnal yw Ionawr 2025 - ond fe allai'r prif weinidog newydd ddewis galw etholiad cyn hynny.

Am faint fydd Boris Johnson wrth y llyw eto?

Y disgwyl yw y bydd Mr Johnson yn parhau fel prif weinidog tan yr hydref.

Mae hyn yn arferol - fe wnaeth Theresa May a David Cameron barhau yn brif weinidogion wedi iddynt ymddiswyddo.

Ond petai Mr Johnson yn dymuno gadael yn syth, fe allai'r Frenhines benodi arweinydd dros dro - aelod o'r Cabinet fwy na thebyg - nes bod arweinydd newydd wedi cael ei ddewis.

Ond y mae hynny yn sefyllfa anarferol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â gweinidogion San Steffan am fisoedd oherwydd yr holl sylw a fu am arweinyddiaeth Mr Johnson.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig cael etholiad cyffredinol mor gyflym â phosib.

"Nawr mae 'da ni gyfle i symud tu hwnt i hyn," meddai ar Dros Frecwast.

Pwy sy'n debygol o olynu Boris Johnson?

Ar hyn o bryd does dim olynydd amlwg - ond mae nifer o rai posib.

Yn y gorffennol mae cyn-weinidogion o'r Cabinet, Jeremy Hunt a Sajid Javid wedi sefyll am yr arweinyddiaeth ac o bosib y byddant yn dewis gwneud eto.

Ymgeiswyr posib eraill:

  • Gweinidog Masnach Rhyngwladol Penny Mordaunt

  • Cyn-Ganghellor Rishi Sunak

  • Ysgrifennydd Tramor Liz Truss

  • Cadeirydd Pwyllgor Materion Tramor Tom Tugendhat

  • Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace

  • Canghellor Nadhim Zahawi

"Dwi'n meddwl bod digon o ymgeiswyr cymwys fedrith gamu i'r adwy," meddai Tomos Dafydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae eisiau gweledigaeth ac agenda bolisi uchelgeisiol a beiddgar, medd Tomos Dafydd

"Dwi'n edrych ymlaen i weld y rhestr hir o ymgeiswyr a rhinweddau'r ymgeiswyr hynny.

"O'm safbwynt i mae yna rinweddau sy'n gwbl allweddol. Ma' isie gweledigaeth ac agenda bolisi uchelgeisiol a beiddgar - mae taer angen rhywun sy'n cyfathrebu'n effeithiol ac i ryw raddau rhywun oedd yn cyfathrebu fel roedd Boris yn medru 'neud - er ei holl wendidau.

"Ar ei orau roedd e'n medru apelio at bobl mewn ffordd na wnaeth arweinwyr cyn hynny."

Pa bwerau sydd gan Boris Johnson o hyd?

Tan ei fod yn ymddiswyddo mae gan y prif weinidog, Mr Johnson, yr un pwerau ond does ganddo ddim yr un awdurdod i gyflwyno polisïau newydd radical.

Fe fydd yn parhau i gynrychioli y DU tramor ac mae'n gallu parhau i wneud penodiadau cyhoeddus a newid ei dîm o weinidogion.

Un o'i ddyletswyddau olaf, mae'n debyg, fydd urddo marchogion a phenodi pobl i Dŷ'r Arglwyddi fel rhan o'i restr anrhydeddau wrth ymddiswyddo.