Joe Allen yn ailymuno ag Abertawe o Stoke
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen wedi ailymuno â Chlwb Pêl-droed Abertawe ar gytundeb dwy flynedd.
Roedd Allen, 32, yn rhydd i chwilio am glwb newydd ar ôl gadael Stoke City, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth, wedi chwe blynedd.
Mae hi'n 10 mlynedd ers i Allen, 32, adael Abertawe - ei glwb ers iddo ymuno â'i academi pan yn fachgen - wedi 150 o gemau i'r tîm cyntaf i ymuno â Lerpwl am ffi o £15m.
Bydd yn llenwi bwlch yng nghanol cae wedi i Flynn Downes ymuno â West Ham.
Roedd hyfforddwr Abertawe, Russell Martin wedi mynegi awydd i ddenu Allen ar ddiwedd y tymor diwethaf, ond roedd perchnogion y clwb yn anfodlon cymeradwyo cytundeb nes bod chwaraewyr wedi gadael y clwb.