Canolwr Cymru Jamie Roberts yn ymddeol o rygbi proffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae canolwr Cymru a'r Llewod Jamie Roberts wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol.
Chwaraeodd Roberts, sy'n 35, 94 o weithiau dros Gymru, ac mewn tair gêm i'r Llewod.
Dechreuodd ei yrfa gyda Chaerdydd ac ers hynny mae wedi chwarae dros glybiau ar draws y byd yn cynnwys Racing Metro, Caerfaddon, Harlequins, Stormers, y Dreigiau a'r Waratahs.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2008, gan fod yn rhan o dimau enillodd y Gamp Lawn ddwywaith.
Roedd hefyd yn rhan o'r tîm a ddaeth yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd 2011, cyn gwneud ei ymddangosiad rhyngwladol olaf yn 2017.
'Atgofion anhygoel'
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd bod ganddo "deimlad anhygoel o ddiolch am yr hyn mae'r gêm wedi rhoi i mi".
Roedd cynrychioli ei wlad, meddai, yn "freuddwyd ers yn blentyn, ac yn ffodus fe ddaeth yn wir".
"Roedd yn golygu popeth i mi, a bydd hynny'n parhau am byth. Ni fyddaf yn anghofio'r balchder anferthol o fod yn gapten ar fy ngwlad."
Dywedodd ei fod yn gorffen ei yrfa "gydag atgofion anhygoel", ac y byddai'n parhau i weithio yn y maes fel darlledwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018