'Colli cyfle i newid rheolau llygredd fferm' medd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
taenu tailFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r NVZs yn bwnc llosg ym myd amaeth

Mae "cyfle gwirioneddol" wedi ei golli i orfodi gweinidogion Cymru i wneud newidiadau i reolau llygredd i ffermwyr, yn ôl Plaid Cymru.

Mae'r blaid wedi beirniadu Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig am helpu i basio cyfraith treth er gwaethaf cytuno gyda Phlaid Cymru i'w gwrthwynebu, ac i ddefnyddio hynny i wthio am newidiadau i'r rheolau llygredd dadleuol.

Ni ddaethpwyd i fargen ffurfiol ac ymataliodd Ms Dodds ei phleidlais, gan ganiatáu i'r gyfraith dreth basio.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol na fyddai Ms Dodds yn gwrthod deddf dyngedfennol am fargen sydd heb ei chyflawni.

Dywedodd cadeirydd grŵp Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, ei fod yn "drychineb" i hygrededd Ms Dodds ymatal heb ddim i'w ddangos ar barth perygl nitradau Cymru gyfan (NVZs).

Gynt roedd ychydig dros 2% o dirwedd Cymru wedi'i ddynodi'n Barthau Perygl Nitradau, neu Nitrate Vulnerable Zones, ond mae'r drefn newydd yn cynnwys Cymru gyfan.

Ers y bleidlais, mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod Ms Dodds wedi siarad â'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths am y rheolau ffermio, ac mae cyfarfod arall wedi ei gynllunio.

Fodd bynnag mae ffynhonnell yn dweud nad yw hi wedi cael cynnig unrhyw gonsesiynau ac nad yw'n gysylltiedig â'r bleidlais.

Ffynhonnell y llun, Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru fod achosion o lygru afonydd yn digwydd deirgwaith yr wythnos ar gyfartaledd yng Nghymru

Cafodd gweinidogion Llafur wybod yn uniongyrchol fod y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y mesur Deddfau Trethi Cymru ddydd Mawrth.

Gyda Llafur heb fwyafrif yn Senedd, roedd y blaid yn disgwyl i'r gyfraith ddisgyn mewn pleidlais, ond fe basiodd gyda 27 o blaid, 1 yn ymatal a 26 yn erbyn.

Er bod Plaid Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru ar rai materion trwy'r cytundeb cydweithredu, nid yw'n eu cefnogi i gyd - gan olygu bod pleidlais Ms Dodds yn hollbwysig.

Mae'r ddeddfwriaeth dreth yn caniatáu i weinidogion ddiwygio cyfreithiau treth, y mae gweinidogion yn dweud sydd eu hangen fel y gallant wneud newidiadau brys fel ymateb i benderfyniadau llysoedd neu dribiwnlysoedd, neu newidiadau treth Llywodraeth y DU.

Ond dywed beirniaid y gallai'r gyfraith olygu bod y llywodraeth yn cymryd drosodd swyddogaethau sy'n perthyn i'r Senedd, ac fel arfer nid oes gan lywodraethau'r DU bwerau i ddiwygio treth heb ganiatâd y senedd.

Yn ôl Plaid Cymru, roedd ei grŵp ac aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio y byddai'r llywodraeth yn darparu consesiynau ar y parth perygl nitradau Cymru gyfan.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau llymach ar storio a thaenu slyri ond mae ffermwyr wedi dweud bod y mesurau yn rhy gostus.

Roedd adroddiad diweddar gan y pwyllgor economi yn annog gweinidogion i ailystyried y rheoliadau llygredd, gan gynnwys caniatáu i ffermydd glaswelltir wasgaru hyd at 250kg yr hectar o nitrogen.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Llyr Gruffydd, cadeirydd grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ei fod yn credu bod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'i blaid ef yn unedig wrth geisio darbwyllo Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion y pwyllgor yn gyfnewid am ganiatáu i'r mesur basio.

"Roedd hwn yn gyfle gwirioneddol i ni wneud safiad dros y cymunedau gwledig sy'n annwyl iawn i lawer ohonom," meddai.

Aeth y trafodaethau i'r ychydig oriau olaf cyn y bleidlais: "Roedden ni'n gobeithio ein bod ni'n weddol agos.

"Ond mae'n rhaid ei bod hi wedi dod i'r amlwg wedyn efallai nad oedd yr wrthblaid mor unedig ag yr oedden ni'n meddwl ein bod ni.

"Wedi hynny daeth yn amlwg nad oedd cytundeb i'w wneud, ac yn dilyn hynny un ymataliad unigol a roddodd y bleidlais i'r llywodraeth."

Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" a dywedodd fod y blaid wedi cael ei "gadael i lawr".

Os nad yw hi wedi cyflawni unrhyw gonsesiynau ar NVZ, dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'n drychineb iddi hi a'i hygrededd yma."

'Deddfwriaeth hollbwysig'

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Roedden ni mewn trafodaethau tan y funud olaf un er mwyn ceisio sicrhau bargen, ond fe wnaeth y llywodraeth yn glir iawn yn hwyr ddydd Mawrth nad oedd cytundeb o gwbl i'w wneud ac mae'n ffuantus i Blaid Cymru awgrymu bod 'bargen yn eithaf agos'."

Dywedodd, er bod gan Ms Dodds amheuon ynghylch deddf drethi Cymru, bod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yn y broses "wedi mynd i'r afael â'r pryderon hynny i ryw raddau".

"Ein dealltwriaeth ni yw bod Plaid Cymru o'r un farn ac mae eu gwrthwynebiad i'r ddeddf dreth yn ymwneud mwy â chyhoeddusrwydd na gwleidyddiaeth.

"Nid yw Jane [Dodds] o'r farn eich bod yn diarddel deddfwriaeth hollbwysig mewn gobaith o fargen nad oedd wedi'i gwireddu.

"Mae Jane yn parhau i gael sgyrsiau gweithredol gyda Llywodraeth Cymru ar NVZs. Mae ein gwrthwynebiad i safiad Llywodraeth Cymru ar NVZs yn fater o gofnod cyhoeddus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch bod y mesur wedi'i basio ac y bydd nawr yn dod yn gyfraith.

"Bydd yn darparu amddiffyniadau pwysig i drethdalwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru."