Pleidleisio i adolygu rheolau llygredd fferm
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r Senedd wedi pleidleisio i gynnal adolygiad pwyllgor o reolau llygredd amaethyddol dadleuol.
Roedd cynnig ar y cyd gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn galw am ystyried y mater ar frys.
Wedi gwelliant ar y cynnig gwreiddiol i dynnu'r cymal y byddai Parth Perygl Nitradau dros Gymru gyfan yn cael "effaith negyddol" fe gafodd y cynnigr ei basio'n unfrydol.
Mae'r rheolau newydd i geisio atal llygredd amaethyddol rhag mynd i mewn i afonydd yn "rhy llym o lawer" yn ôl un ffermwr.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw tynhau'r rheolau ar storio a gwasgaru slyri a gwrtaith, er mwyn atal llygredd rhag mynd i mewn i nentydd ac afonydd yn ystod tywydd gwlyb.
Gynt roedd ychydig dros 2% o dirwedd Cymru wedi'i ddynodi'n Barthau Perygl Nitradau, neu Nitrate Vulnerable Zones (NVZs), ond byddai'r drefn newydd yn cynnwys Cymru gyfan.
Mae'r NVZs yn bwnc llosg ym myd amaeth, a chafodd cynnig i ddiddymu'r rheoliadau ei wrthod mewn pleidlais agos yn y Senedd ddechrau Mawrth.
Dywedodd Andrew Jones, sy'n ffermio gyda'i fab ym mhentref Cwmann ger Llanbedr Pont Steffan, ei fod yn cytuno bod angen rheoli llygredd, ond bod y rheolau newydd yn "rhy llym, yn rhy llym ar unwaith".
"Oes mae angen edrych ar yr NVZs a'r dyffrynnoedd lle mae dŵr yn dod allan ac ati, ac aber afonydd, ond dim dros Gymru gyfan", meddai.
"Mae symud o 2% i 100% yn rhy llym o lawer. Awgrymon nhw 8%, a dyle bod hwnna'n agos ati.
"Rydych chi mewn cyfyngder mawr ac rydych chi mewn cyffion o ran mynd allan a slyri ac ati nawr, ac mae'n gwaethygu'r sefyllfa."
Dywedodd y byddai'n costio "miloedd ar filoedd" i ffermwyr weithredu'r camau newydd.
Cyflwyno'n raddol
Yn wreiddiol roedd bwriad i'r rheoliadau gael eu cyflwyno'n raddol o fis Ebrill ymlaen, a dros gyfnod o dair blynedd a hanner.
Bydd mwy o waith papur gan y bydd angen asesu'r risg o lygru ar bob fferm a hefyd bydd angen sicrhau bod cyfleusterau digonol i storio gwerth pum mis o slyri.
Byddai gwaharddiad ar wasgaru slyri o ddiwedd yr hydref am gyfnod o dri mis bob blwyddyn.
Y Ceidwadwyr Cymreig alwodd am y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher.
Sam Kurtz AS yw eu llefarydd faterion gwledig, ac mewn cyfweliad ar Dros Frecwast dywedodd bod yr NVZs yn mynd i roi straen ychwanegol ar ddiwydiant sydd eisoes dan bwysau.
"Mae'n rhaid i ni ail-edrych ar hwn mor glou a gallwn ni," meddai.
"Dyw e ddim yn ddigon i ddweud taw 'NVZs yw'r ffordd waetha i neud e'. Ma'n rhaid cynnig rhywbeth arall i ddangos bod y diwydiant am gwella'r ffordd ma nhw'n gwneud eu gwaith a dwi'n credu bod 'na ffordd i 'neud hynny.
"Ry'n ni moyn dod â'r NVZs o flaen un o bwyllgorau'r Bae i gael pobl i ddod mewn [i roi tystioaleth].
"Gallwn ni edrych ar draws y môr at Iwerddon, a'r ffaith bod y sefyllfa yna, lle ma 'na NVZ ar draws Iwerddon gyfan, ma'r sefyllfa yn waeth."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llygredd amaethyddol yn effeithio ar ansawdd dŵr ledled Cymru gyfan.
"Mae'n amlwg bod un digwyddiad llygredd yn ormod, ond bu mwy na thri bob wythnos yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig.
"Mae hyn yn niweidiol i fioamrywiaeth, iechyd y cyhoedd, incwm aelwydydd gwledig, ansawdd dŵr yfed ac mae'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
"Mae angen cymryd camau a dyna pam mae'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol wedi'u cyflwyno.
"Rhaid canolbwyntio nawr ar weithredu'r rheoliadau i fynd i'r afael â lefelau annerbyniol llygredd ac rydym yn croesawu trafodaethau ar gyflawni hyn yn effeithiol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021