Drakeford: 'Rhaid i mi gyfiawnhau taliadau ffermwyr i yrwyr tacsi'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford ei sylwadau mewn cyfweliad gyda BBC Cymru

Dywed Prif Weinidog Cymru bod yn rhaid iddo gyfiawnhau gwario mwy o dreth ar ffermio i "yrwyr tacsi o Bangladesh" yng Nghaerdydd.

Bydd yn rhaid i ffermwyr wneud pethau mae trethdalwyr yn fodlon buddsoddi ynddynt er mwyn parhau i dderbyn cymorthdaliadau, yn ôl Mark Drakeford.

Mae ffermwyr wedi cael cais i orchuddio o leiaf 10% o'u tir gyda choed i fod yn gymwys ar gyfer cyllid yn y dyfodol - er mawr bryder i undebau amaeth.

Mae Mr Drakeford wedi wfftio'r pryderon, ond yn ôl un undeb ffermio maen nhw "bob amser yn mynd i weithio'n galed i gyfiawnhau y cymorthdaliadau".

Cynllun cymhorthdal newydd

Bydd gofyn i ffermwyr ymrwymo i gyfres o "gamau gweithredu" er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliad mwyaf sylfaenol.

Os oes gan ffermwyr ardaloedd o goetir brasddeiliog ar eu tir yn barod, yna fe fydd y rhain yn cyfri' tuag at y gofynion o ran gorchudd coed a chynefinoedd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i 10% o dir amaeth gael ei reoli er mwyn cynnal a gwella cynefinoedd natur

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru: "Rydyn ni'n meddwl bod 7% neu 8% o ffermydd Cymru eisoes wedi'u gorchuddio â choed ar gyfartaledd.

"Nid yw hwn yn 10% newydd....mae'r rhan fwyaf o ffermydd ymhell dros hanner ffordd yno".

Mae'r cynllun cymhorthdal newydd i Gymru yn disodli'r taliadau amaeth o Ewrop yn sgil Brexit, a bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol o 2025 ymlaen.

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Os ydych yn dymuno manteisio ar yr arian hwnnw, os ydych am gael cymorth gan drethdalwyr Cymru, yna bydd yn rhaid ichi ddod o hyd i ffordd o ddod â'ch hun o fewn y cynllun sy'n caniatáu i mi fel Prif Weinidog Cymru gyfiawnhau i yrwyr tacsi Bangladeshaidd yng Nglan-yr-afon, lle rydw i'n byw, pam y dylen nhw dalu eu trethi er mwyn cefnogi ffermwyr yng Nghymru".

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ei wneud yn ofynnol i ffermwyr greu pyllau a helpu i reoli cynefinoedd bywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Abi Reader: "Mae cymaint o bethau yr ydym yn cyfrannu tuag atynt"

Dywedodd Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru, fod ei haelodau "bob amser yn mynd i fod yn gweithio'n galed i gyfiawnhau" y cymorthdaliadau.

"Mae'n gyfran fach o gyllideb llywodraeth Cymru ond mae'n bwysig iawn, iawn," meddai.

"Mae'r gwerth rydyn ni'n ei gyfrannu at economi Cymru yn enfawr.

"Rydyn ni'n rhan o'r diwydiant bwyd a diod gwerth £8 biliwn yma yng Nghymru, rydyn ni'n rhan o gyflogwr mwyaf Cymru, sef 239,000 o bobl.

"Ar ben hynny, rydyn ni'n rheoli 80% o'r tir yma yng Nghymru ac rydyn ni'n ei reoli ar gyfer pob math o bethau, boed yn gynefin, yn fioamrywiaeth, yn fwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu ac mae yna dwristiaeth."