Cyflogau meddygon i godi ar raddfa is na chwyddiant
- Cyhoeddwyd
4.5% yw'r codiad cyflog sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i feddygon, ymgynghorwyr a meddygon teulu - cynnydd sy'n is na chwyddiant.
Bydd gweithwyr eraill y GIG, gan gynnwys nyrsys, glanhawyr a phorthorion, yn derbyn £1,400 yn ychwanegol.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bydd hyn gyfystyr â chodiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i nyrsys o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, a 7.5% ar gyfer porthorion a glanhawyr.
Fodd bynnag, mae'n cynnwys codiad cyflog oedd eisoes wedi ei gyhoeddi i sicrhau bod dim un aelod staff yn derbyn llai na'r Cyflog Byw, dolen allanol.
Mae cynrychiolwyr meddygon a nyrsys wedi beirniadu'r cynnig yn chwyrn, gan rybuddio y bydd staff yn fwy tebygol o gefnu ar y proffesiwn.
Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru'n bwriadu cynnal pleidlais ymhlith aelodau ynghylch gweithredu diwydiannol.
'Terfyn anochel pa mor bell allwn ni fynd'
Bydd y staff ar y cyflogau isaf yn gweld cynnydd o 10.8% - y cynnig mwyaf hael unrhyw le yn y DU, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r ffigwr yma hefyd yn cynnwys y cynnydd yn y Cyflog Byw a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.
Gan dderbyn argymhellion cyrff cyflogau annibynnol, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn gobeithio bod y cynnig "yn mynd peth ffordd" at gydnabod "gwaith caled" staff y GIG.
"Rydym ni oll yn wynebu argyfwng costau byw," dywedodd.
"Rydym wedi strwythuro'r cynnig cyflog yma fel bod y staff o fewn y GIG sy'n derbyn y cyflogau isaf yn gweld y cynnydd mwyaf yn eu tâl, sy'n gyfystyr â chodiad cyflog o 10.8%, gan sicrhau mai'r GIG yng Nghymru sy'n rhoi'r taliadau gorau yn y DU i staff yn y band cyflog isaf."
Ond fe ychwanegodd "bod yna ben terfyn anochel pa mor bell allwn ni fynd yng Nghymru" yn niffyg cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.
Mewn ymateb blaenorol i feirniadaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd wedi cael mwy o gyllid nag ar unrhyw adeg ers dechrau datganoli.
9.4% yw lefel chwyddiant yn y DU ar hyn o bryd, ond mae yna ddarogan y bydd yn cyrraedd 11% erbyn yr hydref.
Mae GIG Cymru'n cyflogi bron i 90,000 o bobl.
'Cic yn nannedd meddygon gweithgar'
Dywed y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA), y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yng Nghymru eu bod yn bwriadu ymgynghori gyda'u haelodau i drafod eu hymateb.
Mae'r BMA hefyd am ofyn am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru, gan apelio ar Ms Morgan "i ailystyried y cynnig yma i leihau rhagor o niwed i GIG Cymru".
Dywed y gymdeithas bod y cynnig yn "warthus", gan fynd yn groes i gytundeb y llynedd dros sawl blynedd yn achos rhai meddygon arbenigol.
Yn hytrach na chodiad i'w cyflogau, bydd y meddygon hyn nawr yn derbyn un taliad unigol o £1,400, meddai'r gymdeithas.
Mae'n "ddim llai na chic yn nannedd meddygon gweithgar", medd cadeirydd y BMA yng Nghymru, Dr David Bailey, sy'n rhybuddio y bydd yn achosi rhwyg, ble bydd "rhai'n derbyn codiad o 4.5%, a rhai ddim".
"Mae'r cynnig yma'n ddim mwy na thoriad cyflog, ar adeg pan fo meddygon wedi dioddef blynyddoedd o godiadau is na chwyddiant ac yn cael eu gyrru o'r GIG yn sgil rheolau pensiwn gwrthwynebol a chosbol."
Ychwanegodd Dr Bailey ei bod yn "hawdd gweld pam mae meddygon yn gadael y GIG ar raddfa frawychus" wedi heriau'r pandemig, pwysau delio â phrinder staff ac adnoddau, rhestrau aros hir a "lefelau uchel o flinder a gorweithio".
Cyhoeddodd yr RCN yng Nghymru nos Wener eu bod wedi cynnal "sesiwn frys" a "gwneud y penderfyniad arloesol i symud yn uniongyrchol i gynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol, rhywbeth nad yw'r coleg wedi ei wneud erioed o'r blaen".
"Fe wnaeth aelodau'n glir y llynedd a sawl blynedd cyn hynny, yn dilyn blynyddoedd o dandalu a phrinder staff bod angen i'r frwydr am dâl teg barhau."
Roedd cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru, Helen Whyley, eisoes wedi rhybuddio y byddai nyrsys "yn ddig o glywed bod y codiad cyflog yn llawer is na chwyddiant unwaith yn rhagor" pan fo dros 1,700 o swyddi gwag angen eu llenwi yng Nghymru.
"Ni fydd hyn yn annog nyrsys i barhau i nyrsio ac ni fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ymuno â nhw," meddai.
"Unwaith yn rhagor dyw'r cyhoeddiad truenus a sarhaus yma ddim yn dod yn agos at wneud yn iawn am y gostyngiad yng ngwerth cyflogau nyrsio o'i gymharu â degawd yn ôl."
Ychwanegodd bod arolwg YouGov diweddar yn awgrymu bod 85% o'r cyhoedd yng Nghymru'n cefnogi codiad cyflog i nyrsys, ac y byddai'n rhatach i Lywodraeth Cymru "dalu nyrsys yn deg" na thalu costau staff asiantaeth.
Dywed yr RCM y bydd "codiad cyflog gwael o 4%, sy'n llai na hanner lefel chwyddiant" i'r mwyafrif yn eu "siomi a'u gwylltio".
Mae rhai aelodau, meddai, "wedi troi at fanciau bwyd i gynnal eu teuluoedd", a bydd codiad o £1,400 "hyd yn oed i'r rheiny fydd yn derbyn hwnnw'n llawn, ddim yn ddigon" i ddygymod â chostau byw cynyddol.
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro yr RCM yng Nghymru, Vicky Richards eu bod "yn siomedig nad ydy [Llywodraeth Cymru] wedi gwrando ar ein rhybuddion am ganlyniadau codiad cyflog is na chwyddiant".
"Mae aelodau ymroddedig... wedi cynnal gwasanaethau mamolaeth a gweithio dros eu horiau, yn aml yn ddi-dâl, i sicrhau gofal diogel... byddan nhw, rwy'n siŵr, yn gweld cyhoeddiad heddiw'n sarhad llwyr, a bydd yn erydu morâl sydd eisoes ar ei isaf."
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau mai 5% o godiad yw'r cynnig yn achos athrawon - cyhoeddiad a gafodd ei feirniadu'n hallt gan undebau addysg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021