Geraint Thomas yn sicrhau trydydd yn y Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Tadej Pogacar, Jonas Vingegaard a Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tadej Pogacar, Jonas Vingegaard a Geraint Thomas ar y podiwm

Mae Geraint Thomas wedi llwyddo i sicrhau'r trydydd safle ar y podiwm yn y Tour De France.

Wedi i'r Cymro, 36, ennill y gystadleuaeth yn 2018, Jonas Vingegaard o Ddenmarc yw'r seiclwr buddugol eleni.

Tadej Pogacar o Slofenia orffennodd yn ail safle y daith - dau funud a 43 eiliad tu ôl i'r buddugwr.

Fe wnaeth Geraint Thomas ddisgrifio'r prif feicwyr eraill fel "talentau eithriadol," wrth iddynt arwain y ras yn y camau olaf.

Geraint Thomas a'r gystadleuaeth

Geraint Thomas oedd y Cymro cyntaf i ennill y daith nôl yn 2018.

Yn 2007 wnaeth y Cymro gystadlu am y tro cyntaf, gan orffen yn 140fed allan o'r 141 a gyrhaeddodd y llinell derfyn ym Mharis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonas Vingegaard, ar ben y byd seiclo

Yn dilyn ei lwyddiant yn sicrhau'r drydydd safle ar y podiwm eleni, Geraint Thomas yw'r nawfed person i dderbyn lle ar bob safle o'r podiwm yn hanes y gystadleuaeth.

Yn sicr mae Geraint Thomas wedi wynebu nifer o rwystrau o fewn ei hanes o gystadlu, yn gynnwys torri ei belfis ar ôl gwrthdrawiad yn 2013.

Daeth Thomas yn fuddugol yn ystod y Tour de Suisse ar 19 Mehefin, ei fuddugoliaeth gyntaf mewn blwyddyn.

Roedd hynny wedi iddo ddatgymalu ei ysgwydd yn ystod trydydd cymal y daith y llynedd, ac hefyd cael damwain yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo.

Canlyniad Terfynol

1. Jonas Vingegaard

2. Tadej Pogačar

3. Geraint Thomas

Gan Dafydd Pritchard a Lowri Roberts yn Ffrainc

Os oedd unrhyw un yn dal i amau Geraint Thomas a'i allu i gystadlu â goreuon y byd seiclo, roedd Tour de France eleni yn wers iddyn nhw.

Ers iddo ennill y ras enwog yn 2018 a gorffen yn ail y flwyddyn ganlynol, mae Thomas wedi dioddef damweiniau, anafiadau a sawl anffawd.

Yn 36 oed, roedd rhai yn credu fod ganddo fawr ddim gobaith yn Le Tour 2022. Roedd ei dîm ei hun, Ineos Grenadiers, ond wedi enwi Thomas fel un o dri cyd-arweinydd y tîm yn Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trydydd oedd tynged Geraint Thomas yn y Tour de France eleni

Ond fe ddangosodd Thomas mai ef oedd seiclwr cryfaf Ineos o bell - a'i fod ymhlith y gorau yn y byd o hyd.

Jonas Vingegaard yw'r pencampwr newydd ar ôl iddo fe a Tadej Pogacar - yn ail eleni ar ôl ennill y ddau Tour diwethaf - osod safon uchel anhygoel ar flaen y ras.

Tu ôl iddyn nhw yn y trydydd safle - ac yn bell o flaen pawb arall - oedd Thomas.

"Mae'n rhoi boddhad mawr i fod lan yna," meddai.

"Boddhaol iawn, yn enwedig i brofi bod ychydig o bobl yn anghywir.

"Ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf roedd pobl yn meddwl fy mod wedi gorffen bron iawn.

"Mae wedi bod yn braf newid hynny ar ôl diwedd siomedig i'r llynedd."

Roedd nos Sul yn achlysur i'w chofio i Thomas, wrth i'w wraig Sara a'u mab dwy flwydd oed Macsen wylio ger Arc de Triomphe.

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas gyda'i wraig, Sara Elen

"Blwyddyn yma mae popeth wedi dod at ei gilydd a fi just mor falch bod e wedi," meddai Sara.

"Mae'n gweithio mor galed a felly dangos y byd eto bod e dal yna a bod e dal gallu neud e. Mae'n golygu lot.

"Pryd ti'n gwybod bod y diwedd [gyrfa] yn dod ti'n gallu dechrau meddwl am falle dyma'r Tour de France olaf, mae e yn rhoi lot mwy o bwyslais ar fwynhau a trio cymryd popeth mewn.

"Mae Geraint wedi gwneud hwnna blwydyn yma.

"Fi'n meddwl falle dyma un o'r Tour de France mae e 'di mwynhau fwyaf, ac mae fe really wedi mwynhau a fi'n meddwl chi'n gallu gweld e trwy'r perfformiad."

Disgrifiad o’r llun,

Gwynedd Jones a'r teulu yn cefnogi'r Cymry yn Ffrainc

Yn gynharach ar y daith, roedd Gwynedd, Maria, Mabon, Elgan a Macsen Jones yn Cahors yn ne-orllewin Ffrainc i gefnogi Thomas.

"Mae na lot o gyffro a mae'n neis gweld Geraint i fyny yna eto," meddai Gwynedd.

"Dwi'n meddwl bydd e'n hapus - mae e 'di brwydro yn galed iawn i aros yn y tri cyntaf a dwi'n meddwl bydd e'n hapus.

"Mae 'di bod yn galed iawn iddo ond mae 'di gwneud yn dda iawn.

"Mae'n handi - gwyliau'r haf a gallu stopio off a gallu cymryd fewn cwpwl o gymalau o'r Tour ar y ffordd lawr so mae'n bonus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un arall sydd wedi bod yn dilyn Thomas ar ei daith yw Rhodri Gomer, cyflwynydd rhaglen Seiclo: Tour de France ar S4C.

"Fi wedi bod yn gwneud hyn ers naw mlynedd nawr a heb os nac onibai dyma'r ras fwyaf cyffrous y'f fi wedi bod yn rhan ohoni," meddai.

"O'r bobl dwi 'di siarad â nhw - o bosib un o'r rasys mwyaf cyffrous yn hanes y Tour de France a hynny yn bennaf oherwydd y ddau unigolyn sydd yn arwain - Jonas Vingegaard a Tadej Pogacar.

"Ar Geraint, fi'n credu bydd e'n fodlon gyda'i safle fe ar y podiwm. Mae e mewn cyflwr arbennig - cystal efallai a beth oedd e nôl yn 2018 pan enillodd e'r daith ond yn anffodus mae'r ddau grwt ifanc yma wedi dod trwyddo ers hynny a byddan nhw siwr o fod yn teyrnasu dros y daith am ddegawd a rhagor."

Pynciau cysylltiedig