Dyn mewn coma ar ôl cael ei drywanu bedair gwaith ym Mhortiwgal
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei drywanu tra ar wyliau gyda'i ffrindiau ym Mhoritwgal yn wynebu ei chweched lawdriniaeth ddydd Llun.
Roedd Joel Collins, 35 o ardal Glyn Ebwy, ar wyliau yn Albufeira pan gafodd ei drywanu bedair gwaith ar 4 Gorffennaf wrth gerdded yn ôl i'w westy.
Mae'n parhau mewn coma mewn uned gofal dwys.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei fam fod y profiad yn un "erchyll".
"Fy mab yw fy myd a dwi wedi bod wrth ei ochr bob dydd ers tair wythnos," dywedodd Sue Bridges.
"Dwi ddim yn mynd i unman tan iddo ddod adref gyda fi.
"Dyma brofiad mwyaf erchyll fy mywyd ond mae'r hyn dwi, ei chwaer a'i bartner yn mynd drwyddo'n ddim byd o'i gymharu â'r hyn mae Joel yn wynebu felly mae hynny'n fy ngwneud yn gryfach."
Yn ôl mam Joel, mae ei bartner Gabriella Sidoli wedi bod draw i Bortiwgal i'w weld ond mae'n gofalu am eu tri o blant sy'n chwech, tair ac un.
"Mae'r un hynaf yn gofyn am eu tad," dywedodd Sue Bridges, "ac mae e'n gweld eisiau ei ffrind pêl-droed."
Dywedodd Sue bod yr anafiadau sydd gan Joel - sydd hefyd yn dad i ferch wyth oed o berthynas flaenorol - yn rhai i'w ysgyfaint chwith, pancreas, coluddyn a thoracs.
"Mae e wedi bod ar ddihun, mae'n brwydro ond roedd yn rhaid iddyn nhw ei roi mewn coma ar gyfer y llawdriniaeth hwn. Roedd e'n deall yr hyn oedd yn digwydd," meddai.
Dim CCTV
Ychwanegodd Sue Bridges ei bod wedi llwyddo "o'r diwedd" i siarad â'r Llysgenhadaeth Brydeinig ac ar ddeall bod yr ymchwiliad i'r ymosodiad ar ei mab wedi dechrau.
Ond dywedon nhw wrthi nad oedd deunydd CCTV gan yr heddlu o'r ymosodiad.
"Dim ond ei ffôn ac ychydig o arian wnaethon nhw gymryd," dywedodd Sue Bridges, "doedd dim llawer ganddo - tua 100 Ewro."
Dywedodd y Swyddfa Dramor bod teulu dyn o Brydain yn cael cymorth yn dilyn digwyddiad ym Mhortiwgal, a bod swyddogion mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r heddlu ym Mhortiwgal ynglŷn â'r digwyddiad.
Mae tudalen GoFundMe wedi casglu bron i £8,000 i'r teulu hyd yn hyn.
Wrth adael neges ar y dudalen, dywedodd ei ffrind, Craig Howells: "Mae Joel yn brwydro'n ddewr i wella yn yr ysbyty ym Mhortiwgal tra bod ei deulu wrth ei ochr yn ei gefnogi.
"Ry'n ni'n gobeithio codi ymwybyddiaeth i'r rheiny sy'n teithio'r haf hwn i fod yn ddiogel, yn ogystal â chodi arian ar gyfer y teulu yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022