Ymgyrch ddiogelwch er cof am ddyn fu farw yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Thomas ChannonFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Channon, 18, ar wyliau gyda'i ffrindiau yn Magaluf

Mae ymgyrch ddiogelwch i bobl ifanc sy'n mynd ar wyliau dramor wedi cael ei lansio ar ôl i lanc ifanc o Fro Morgannwg farw yn Magaluf yn 2018.

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc yn cwblhau eu harholiadau Safon Uwch ac yn mynd ar wyliau heb eu rhieni am y tro cyntaf.

Mae ymgyrch newydd, 'Byddwch yn ymwybodol, byddwch yn ddiogel, arhoswch gyda'ch gilydd' yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc sy'n cynllunio eu taith annibynnol gyntaf.

Daw'r ymgyrch wedi marwolaeth Tom Channon, 18, o'r Rhws ym Mro Morgannwg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod deunydd addysgiadol yr ymgyrch ar gael i ysgolion a cholegau ar draws Cymru dros y dyddiau nesaf.

Fe gwympodd Tom Channon 70 o droedfeddi dros wal isel yng ngwesty fflatiau Eden Roc yn Magaluf.

Fe benderfynodd y bachgen deunaw oed ddychwelyd i'w westy oedd yn agos i Eden Roc ar ei ben ei hun wedi noson mas gyda ffrindiau.

Yn 2019, fe ddaeth crwner i'r casgliad pe bai mesurau diogelwch syml mewn lle ar y pryd, mae'n bosib na fyddai Tom wedi marw.

Mae gwelliannau diogelwch wedi eu cwblhau ers y digwyddiad trasig yn 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith rhieni Tom Channon - John a Ceri - yw y bydd pobl ifanc yn dychwelyd yn ddiogel ar ôl bod dramor

Mae rhieni Tom - John a Ceri Channon - yn gobeithio bydd yr ymgyrch yn helpu i sicrhau nad yw teuluoedd eraill o Gymru yn dioddef trasiedi debyg.

"Rydyn ni i gyd eisiau i'n plant deithio tramor, i fwynhau ac i ddychwelyd adre'," dywedodd Ceri.

"Dyna roedden ni eisiau gyda Tom ac fe ddigwyddodd y peth gwaethaf erioed i ni.

"I ni, mae'r ymgyrch hon yn rhodd gan Tom. Byddai Tom wedi llwyddo mewn nifer o bethau yn ystod ei fywyd a dyma ei lwyddiant nawr," meddai.

Ychwanegodd: "Rydw i'n gobeithio y bydd plant yn gweld hwn yn eu hysgolion a cholegau a bydd e'n gwneud iddyn nhw feddwl a wedyn mynd adre' a trafod hyn gyda'u rhieni nhw a gobeithio y bydd eu rhieni nhw'n atgyfnerthu'r neges bod rhiant eisiau i'w plant deithio a mwynhau ond bod nhw hefyd eisiau iddyn nhw gadw'n ddiogel ac yn ymwybodol o beryglon sydd o'u hamgylch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrch yn cynnwys pecyn addysgiadol, fideo a chyngor ar sut i gadw'n ddiogel

Fe fydd pecyn addysgiadol, dwyieithog ar gael i ysgolion a cholegau yn ystod tymor yr haf yng Nghymru sy'n cynnwys cyfweliadau gyda rhieni a ffrindiau Tom, yn ogystal â fideo sy'n cynnig syniadau a chyngor ynglŷn â sut i gadw'n ddiogel wrth deithio dramor.

Y bwriad yw gweld y deunydd yn annog trafodaeth mewn gwersi iechyd a lles.

Mae myfyrwyr Safon Uwch yng Ngholeg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd - lle fuodd Tom yn fyfyriwr hefyd - wedi cael cyfle i brofi'r sesiwn newydd yn barod.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Iago Parish yn mynd ar ei wyliau dramor eleni ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch

Mae Iago Parish wedi trefnu gwyliau tramor gyda rhai o'i ffrindiau ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch eleni.

"Weithiau dwyt ti ddim yn ystyried y peryglon a'r risgiau ond mae wastad angen sicrhau eich bod chi'n ofalus tra eich bod chi ar wyliau achos gallai rhywbeth fynd o'i le ar unrhyw adeg," meddai.

Dywedodd Hedagwi Gwom, myfyriwr yn y Chweched Ddosbarth: "Mae rhai pobl yn anghofio pan rydych chi'n mynd ar wyliau, yn aml does ganddoch chi ddim yr un math o ryddid â sydd ganddoch adre'.

"Mae'n hawdd i deimlo'n hyderus ac yn gyfforddus yn y dref neu'r ddinas lle rydych chi'n byw, ond dramor mae'r amgylchedd yn wahanol ac felly does dim modd, wastad, cymryd yr un math o risgiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ethan, Vinay ac Elinor yn fyfyrwyr yn Chweched Dosbarth Ngholeg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle fuodd Tom Channon yn fyfyriwr hefyd

Ychwanegodd Ethan Baff: "Roedd y sesiwn yn agoriad llygaid. Gall unrhyw beth ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg a mae rhaid i chi fod yn barod amdano."

Dywedodd Paul Thomas sy'n arwain y sesiynau lles yn y coleg nad yw "erioed wedi dysgu gwers ar ddiogelwch tramor".

"Mae'n bwnc pwysig i bobl ifanc yr oedran yma," meddai.

"Mae nifer yn teithio tramor am y tro cyntaf ar eu pennau eu hunain a gyda ffrindiau. Dw i'n credu dylai'r gwersi yma gael eu dysgu nid yng Nghymru yn unig, ond ar draws y Deyrnas Unedig."

Wrth i'r ymgyrch gael ei lansio, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles, bod rhieni Tom wedi "dangos dewrder yn sgil marwolaeth eu mab.

"Mae'r teulu yn parhau i weithio'n galed i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â damweiniau gall ddigwydd ar wyliau.

"Dwi'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda'r teulu Channon i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ymgyrch 'byddwch yn ddoeth, byddwch yn ddiogel, arhoswch mewn grŵp', sy'n darparu gwybodaeth ymarferol iawn i bobl ifanc sy'n cynllunio eu gwyliau annibynnol cyntaf tramor."

Ychwanegodd y bydd y deunydd ar gael ar blatfform Hwb ysgolion a cholegau.

Pynciau cysylltiedig