Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Mwy am Sophie Tuckwood

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sophie Tuckwood
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Tuckwood yw un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, un o'r seremonïau ar lwyfan y pafiliwn fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2022.

Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr

Mae Sophie Tuckwood a'i theulu yn byw yn Hwlffordd. Fe symudodd i Sir Benfro o Nottingham, a chael ei blas cyntaf o'r iaith rhyw bedair blynedd yn ôl, ychydig ar ôl iddi gael plant.

"Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr ers dysgu Cymraeg - y ffordd dwi'n gweld y byd wedi newid yn llwyr a'r ffordd dwi'n gweld fy hun," meddai.

Mae'r Gymraeg wedi bod yn gyfle i Sophie dderbyn profiadau amrywiol.

"Dechreues i mewn cwrs Dysgu Cymraeg i'r Teulu lle o'dd cyfle i fi ddod â fy ifancaf, Arthur, mewn pram i'r dosbarth - roedd hynny'n wych achos heb hynny bydde dim cyfle i fi fynd, siŵr o fod.

"Dwi wedi gwneud lot o ddigwyddiadau gyda Menter Iaith a Dysgu Cymraeg, ac mae hynny wedi rhoi llawer o brofiadau i gwrdd â phobl newydd sy'n siarad Cymraeg yn Sir Benfro, a dwi wedi jest tyfu cymuned o ddysgwyr a siaradwyr - dwi'n teimlo fel dwi'n siarad Cymraeg mwy na Saesneg erbyn hyn!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Buddug Harries wedi bod yn dysgu Cymraeg i eraill am nifer o flynyddoedd

Ei thiwtor ar y cwrs cyntaf hwnnw bedair blynedd yn ôl oedd Buddug Harries, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Sir Benfro ers dros chwarter canrif.

"Daeth Sophie gydag Arthur - o'dd hi dim ond jest wedi cael Arthur, a daeth hi ag e yn fabi bach, bach, bach," meddai.

"O'dd llawer o ganu, llawer o ymarfer, llawer o hwyl, llawer o chwerthin a 'naeth Sophie fwynhau gymaint ddaeth hi wedyn i fwy o ddosbarthiadau a nawr mae'n hollol rugl."

Mae Sophie yn dweud bod ei hagwedd at ieithoedd wedi newid yn llwyr ers mynd ati i ddysgu'r Gymraeg.

"Pan o'n i'n dechrau, achos Saesneg oedd yr unig iaith o'n i'n siarad, do'n i ddim yn sylwi bod iaith yn rhywbeth mwy na jest cyfathrebu - dyna'r peth sydd wedi digwydd i fi dros y blynyddoedd diwetha'."

Dysgodd Sophie beth yn union mae iaith yn golygu i wahanol bobl a "sut mae iaith yn gallu cysylltu pobl, a pha mor bwysig yw'r cysylltiad rhwng pobl, yr hanes a'r diwylliant - a pha mor bwysig yw'r Gymraeg yn y gymuned - do'n i ddim yn deall hynny o gwbl cyn hynny".

Dysgu Cymraeg i eraill

Ers mis Medi 2021, mae Sophie wedi dechrau helpu pobl eraill i ddysgu'r iaith, gan ei bod hi bellach yn diwtor.

"Dwi'n meddwl achos 'mod i wedi dysgu Cymraeg fy hun, dwi'n gallu rhoi tipiau... pethe dwi wedi gwneud... a lot o gefnogaeth, achos mod i wedi cael lot o'r profiadau 'na.

"Hefyd dwi eisiau deall mwy am y broses o ddysgu ieithoedd, felly nawr dwi'n astudio ieithyddiaeth fel cwrs meistr - mae hynny yn helpu fi i ddeall y broses 'na yn fwy, a dwi'n gobeithio gwneud bach o ymchwil yn y maes 'na i helpu pobl eraill i ddysgu yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuwyr dysgwr y flwyddyn eleni. O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Stephen Bale, Joe Healy, Sophie Tuckwood a Ben Ó Ceallaigh

Nid oedd Sophie yn disgwyl cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn o gwbl, meddai.

"O'n i'n falch i gael fy enwebu a bod yn onest, felly i fynd i'r rownd derfynol mae'n hollol surreal - dwi jest yn joio'r profiad."

Mae ei thiwtor, Buddug Harries, wrth ei bodd bod Sophie wedi mynd mor bell yn y gystadleuaeth.

"Dwi'n enbyd o falch o Sophie - dwi'n browd iawn ohoni - mae 'di ymdrechu, mae 'di cymryd pob cyfle i siarad yr iaith ers y dechrau'n deg."

Yn ystod yr wythnos cawn glywed am brofiadau'r dysgwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2022.