Achub dau ddyn meddw oddi ar fynydd Cader Idris

  • Cyhoeddwyd
Llyn Cau a Mynydd MoelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pawb o'r criw eu hachub oddi ar y mynydd erbyn 20:45 ddydd Sul

Treuliodd 17 o wirfoddolwyr chwe awr yn achub dau ddyn a oedd wedi meddwi ar fynydd Cader Idris ddydd Sul.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Aberdyfi eu galw am 15:00 i adroddiadau fod grŵp o wyth o ddynion angen cymorth, a bod un dyn yn ei ugeiniau yn anymwybodol.

Ond erbyn i'r tîm achub gyrraedd, roedd y dyn yn ymwybodol a chafodd ei cynorthwyo i lawr y mynydd ar droed.

Er hynny, daeth hi'n amlwg fod dyn arall wedi gwahanu oddi wrth ei ffrindiau, wedi colli ei ffordd ac wedi cael ei anafu mewn cwymp.

Roedd y dyn yn ymwybodol ond roedd ganddo anafiadau dros ei gorff, felly fe'i cludwyd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gael ei drin.

Dywedodd Graham O'Hanlon, un o'r gwirfoddolwr a oedd yno ar y pryd: "Nid oedd gan y dynion yr offer cywir i ddringo yn y tywydd gwael 'ma, neu hyd yn oed i ddod o hyd i'r ffordd allan.

"Roedden nhw wedi gwneud penderfyniad gwael a wnaeth bron achosi i un dyn i golli ei fywyd.

"Oni bai am liw dillad y dyn, efallai ni fyddwn wedi dod o hyd iddo."

Pynciau cysylltiedig