Cynnal angladdau dau o Gaerdydd fu farw ym Mangladesh

  • Cyhoeddwyd
Rofikul Islam
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rafiqul Islam a'i fab Mahiqul ar eu ffordd i'r ysbyty ddydd Mawrth

Mae angladdau wedi'u cynnal ar gyfer dyn a'i fab o Gaerdydd fu farw yn ninas Sylhet, Bangladesh.

Bu farw Rafiqul Islam, 51, a Mahiqul, 16, ar eu ffordd i'r ysbyty ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu ym Mangladesh yn ymchwilio i achos posib o wenwyno.

Mae'r marwolaethau wedi eu cofrestru fel rhai 'heb esboniad naturiol' - marwolaethau o ganlyniad i achosion heblaw clefydon.

Mae mam Rafiqul Islam, Zarina Jobbar, a'i mab hynaf wedi gwneud datganiadau i'r heddlu yn Sylhet.

Mae'r BBC yn deall eu bod wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yna drydan yn y tŷ noson y digwyddiad.

Roedd yr holl deulu yn effro tan 02:00 ond does ganddynt ddim cof o beth ddigwyddodd wedi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o bobl ar strydoedd Sylhet ar gyfer yr angladd ddydd Iau

Ddydd Iau, roedd cannoedd o bobl ar strydoedd Sylhet ar gyfer yr angladd.

Roedd Zarina Jobbar ynghyd â dau o frodyr Rafiqul Islam, a'i chwaer ymhlith y rhai a oedd yn bresennol.

Mae tri aelod arall o'r teulu - Husnara, gwraig Rafiqul, ei ferch Samira, 20, a'i fab arall Sadiqul, 24 - yn dal i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae'r BBC yn deall bod Samira mewn cyflwr difrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dinas Sylhet yng ngogledd-ddwyrain Bangladesh

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn meddwl am y teulu, sy'n byw yn ei etholaeth Gorllewin Caerdydd.

"Rwy'n meddwl am y teulu a'u ffrindiau heddiw. Rydym yn meddwl am Husnara, Samira a Sadiqul wrth iddynt gael triniaeth yn yr ysbyty," meddai.

"Mae'r digwyddiad yn un ofnadwy fydd wedi cael effaith ar y gymuned o Fangladesh sy'n byw yma yng Nglan-yr-Afon.

"Mae swyddfa etholaeth Gorllewin Caerdydd a'r Aelod Seneddol ar gael i gynnig cefnogaeth i unrhyw un sydd ei angen."

Pynciau cysylltiedig