Cyngres Europa: Y Drenewydd 1-2 Spartak Trnava
- Cyhoeddwyd
![Y Drenewydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/42E9/production/_126092171_9980e4d962c9f00f3fc4e995143c43482662f4c2.jpg)
Mae taith Y Drenewydd yn Ewrop ar ben am eleni wedi iddyn nhw golli i Spartak Trnava o Slofacia.
Fe gollodd y Drenewydd o 4-1 yn y cymal cyntaf yn Trnava - gan olygu bod angen buddugoliaeth o dair gôl neu fwy ar y tîm cartref os am sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Fe aeth Y Drenewydd ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i gic o'r smotyn gan Aaron Williams.
Ond gyda llai nag 20 munud yn weddill fe lwyddodd Martin Bukata i ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal.
Munudau yn ddiweddarach, fe sgoriodd Bukata ei ail gan ymestyn mantais Spartak Trnava i 6-2 ar gyfanswm goliau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022