Noson siomedig yn Ewrop i glybiau Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n noson rwystredig i reolwr y Seintiau Newydd, Anthony Limbrick, wrth i'w dîm fethu a chreu cyfleon o bwys
Noson siomedig oedd hi i glybiau Cymru yn Ewrop gyda chynyrchiolwyr Cymru yn colli ei cymalau oddi cartref.
Bydd y Seintiau Newydd a'r Drenewydd yn teithio'n ôl i Gymru gyda gwaith sylweddol o'u blaenau os am barhau eu rhediadau yng Nghyngres Ewropa.
Colli o 4-1 yn Slofacia oedd tynged y Drenewydd, gyda'r Seintiau Newydd hefyd yn colli 2-0 yng Ngwlad yr Iâ.
Bydd y ddau dîm yn chwarae eu cymalau cartref wythnos nesaf.
Siom i'r Seintiau
Er methu a gwneud argraff yng Nghymghrair y Pencampwyr ar ôl colli'n erbyn Linfield dros ddwy gymal, roedd gobeithion pencampwyr Cymru'n uchel wrth deithio i wynebu Vikingur yn Reykjavík.
Ond bron o'r cychwyn cyntaf roedd mantais ffitrwydd pencampwyr Gwlad yr Iâ yn amlwg, gan eu bod eisoes hanner ffordd drwy'i tymor domestig.

Roedd hi'n noson rwystredig ar y llinell flaen i ymosodwyr y Seintiau fel Adrian Cieslewicz
Roedd rhaid i golwr y Seintiau, Connor Roberts, wneud sawl arbediad gyda Kristall Máni Ingason yn rhedeg y sioe i'r tîm cartref cyn iddo drosglwyddo i Rosenborg o Norwy fis Awst.
Daeth y gôl gyntaf yn haeddiannol wedi bagliad yn y cwrt cosbi, gyda Ingason yn rhwydo'r cic o'r smotyn.
Fe wellodd y Seintiau yn yr ail a byddant yn siomedig iawn gyda phenderyniad y dyfarnwr i roi ail gic o'r smotyn i'r tîm cartref pan roedd yn edrych fod yr amddiffynnwr, Josh Pask, wedi ennill y bêl yn dêg.
Serch hynny, rhwydo'r gic wnaeth Ingason gyda'r Seintiau yn methu a gwneud argraff ar noson siomedig iawn i dîm Anthony Limbrick.
Talcen caled yn Slofacia
Gwobr y Drenewydd am oroesi sialens HB Torshavn yn rownd ddiwethaf oedd taith i wynebu Spartak Trnava.
Ond roedd yn dalcen caled o'r dechrau, gyda'r tîm o Slofacia yn cynnwys sawl chwaraewr rhyngwladol.
Er cychwyn addawol gan dîm Chris Hughes, y dorf gartref oedd yn dathlu wedi i Bamidele Yusuf lwyddo i guro Dave Jones gyda 17 munud ar y cloc.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daeth y Drenewydd yn gyfartal wedi 23 munud, serch hynny, gyda Henry Cowans yn cymryd mantais o smonach amddiffynol y tîm cartref wrth iddo rwydo fewn i gôl wag.
Ond yn erbyn llif y chwarae ddoth y gôl hwnnw, gyda'r tîm o Slofacia yn parhau i bwyso.
Fe ddaeth eu gwobr wedi 41 munud gyda Yusuf, yr ymosodwr o Nigeria, yn rhwydo'i ail o'r gêm wrth dorri fewn o'r asgell a darganfod cornel isa'r rhwyd.
Brin ddau funud wedyn roedd wedi cwblhau ei hat-tric, gan droi'i gêm ar ei phen er gwaethaf peth chwarae addawol gan y tîm llêd-brofessiynol o ganolbarth Cymru.

Y chwaraewr ganol cae, Henry Cowans, sgoriodd unig gôl y Drenewydd
Llwyddodd i Drenewydd i rwystro'r tîm o Slofacia - sydd eisoes wedi cychwyn eu tymor domestig - i ond un gôl yn yr ail hanner, gyda Alex Iván yn sgorio wedi 75 munud.
Bydd y ddau dîm yn wynebu eu gilydd unwaith eto yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, nos Iau nesaf.