Ap newydd yn arbed cleifion rhag teithio i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Alun Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Morgan yn un o 40 o gleifion sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot

Pan gafodd Alun Morgan, 80, wybod ym mis Mawrth fod ganddo fethiant y galon, dywedodd ei feddygon wrtho y gallai straen fod wedi bod yn ffactor.

"Wnes i feddwl yn syth fy mod i newydd brofi'r ddau beth mwya' stressful bosib," meddai.

Cyn ei ddiagnosis roedd Alun wedi symud tŷ ac fe gollodd ei wraig, Janet.

Mae'n un o 40 o gleifion sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot sy'n defnyddio ap ffôn symudol.

Mae'r ap yn cofnodi ei bwysau, ei bwysedd gwaed a'r lefelau ocsigen yn ei waed.

Mae'r data yn cael ei fonitro gan staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant sy'n gallu gweld yn syth os oes newidiadau sydd o bryder.

Arbed teithio

"Mae'r ap wedi arbed rhyw bedwar mis o deithiau yn ôl a 'mlaen i'r ysbyty," meddai Mr Morgan.

"Cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn, fi'n cael check-up heb orfod symud o'r tŷ, sy'n wych.

"Os oes gen i broblem fe fyddan nhw'n fy ffonio ac fe ddigwyddodd e py'ddiwrnod a dweud 'y tabledi newydd 'na chi fod i ddechre 'fory - peidiwch. Mae eich pwysedd gwaed chi'n rhy isel'."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae data Alun Morgan yn cael ei fonitro gan staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant

Mae dod o hyd i'r cydbwysedd cywir o feddyginiaethau i gleifion yn her gyffredin.

Mae gwerthusiad o'r cynllun peilot yma wedi dangos ei fod wedi lleihau'r amser o ryw wyth mis i 34 diwrnod.

Mae'r prosiect yn cynnwys grwpiau bach o gleifion ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf - a Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Mae'r gwerthusiad cyntaf wedi dangos gostyngiad o 19% yn nifer yr apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb yng Nghwm Taf Morgannwg.

'Llai o stress'

Mae darparu gofal fel hyn yn helpu i leihau nifer y cleifion sy'n dod i adrannau brys, gyda'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 10,300 o bobl wedi aros 12 awr neu fwy ym mis Mehefin.

"Fel arfer, ma' isio i'n cleifion ni deithio yma i'r 'sbyty lot i gael y darlleniadau," meddai Mandie Welch, y nyrs arbenigol sy'n arwain y tîm sy'n darparu gofal i gleifion sydd â methiant y galon ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

"Ma' hynny'n gallu bod yn anodd, ond be' ma'r peilot yma'n ei 'neud ydy stopio'r stress o ddod yma mewn traffig, ffeindio lle i barcio, a'r stress o gael profion, a 'dan ni'n eu monitro nhw o bell.

"'Dan ni hefyd yn gallu rhyddhau cleifion o uned gofal y galon yn gynt a gweld bron yn syth sut effaith ma' gwahanol mix o dabledi yn ei gael.

"Ac yn bwysicach na dim, mae cleifion yn dweud eu bod nhw'n teimlo bo' nhw yn cael mwy o support ac yn gallu cadw golwg ar eu hiechyd eu hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mandie Welch fod cleifion sy'n rhan o'r cynllun yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth

Mae rhyddhau gwelyau ysbyty yn amserol yn helpu gyda llif cleifion drwy'r system ac yn lleddfu amseroedd aros mewn adrannau brys, ac yn ei dro, amseroedd ymateb ambiwlansys.

Mae'r peilot yn un o nifer o dechnolegau monitro o bell a ariennir gan gronfa datrysiadau digidol Covid-19 Llywodraeth Cymru, a gefnogir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr sy'n rhan o'r cynllun peilot sy'n cael ei asesu ar hyn o bryd.

Bydd sgyrsiau'n digwydd wedyn ynglŷn ag a fydd yn cael ei ehangu ymhellach.