Ap 'arloesol' yn helpu monitro cyflwr cleifion y galon

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Evan Dobson o'r Bala bod yr ap monitro'r galon "wedi bod yn fendith mawr"

Mae cleifion y galon yn y gogledd yn treialu technoleg "chwyldroadol" sy'n golygu bod clinigwyr yn gallu monitro eu hiechyd a'u hadferiad dros ffôn symudol.

Mae'r cleifion yn defnyddio ap i gofnodi symptomau ac arwyddion hanfodol fel pwysau a phwysedd gwaed ac mae arbenigwyr yn rhoi adborth gan nodi cynnydd ac unrhyw bryderon ar ôl adolygu'r wybodaeth.

Mae'r dechnoleg hefyd yn caniatáu ymgynghoriadau fideo sy'n gallu helpu cleifion osgoi ymweliadau diangen â chlinigau neu ysbytai.

Dywed un claf sy'n rhan o'r arbrawf mai "dyma'r ap mwyaf gwerthfawr ar fy ffôn ar hyn o bryd".

Ffynhonnell y llun, HUMA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cleifion yn defnyddio ap i gofnodi symptomau ac arwyddion hanfodol fel pwysau a phwysedd gwaed

Dan y cynllun peilot, mae'n bosib nodi unrhyw newid yn iechyd y claf neu ymateb i feddyginiaeth yn gynt.

Mae'n ganlyniad cydweithio rhwng byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg gyda'r cwmni technoleg iechyd Huma, dolen allanol, a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r ap yn cael ei weld fel un "ateb blaengar" o ran ceisio lleddfu pwysau ar y GIG a lleihau amseroedd amser.

Drwy'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi mae Llywodraeth Cymru'n annog pobl i ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau iechyd.

Ffynhonnell y llun, HUMA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arbenigwyr yn gallu monitro gwybodaeth y cleifion o bell

Fel rhan o'r cynllun, mae cleifion yn derbyn offer i gymryd darlleniadau, gan gynnwys cyff pwysedd gwaed, graddfeydd pwyso ac ocsimedr curiad y galon.

Mae arbenigwyr cardioleg wedyn yn gallu monitro symptomau, cynnydd a chynnal ymgynghoriadau fideo o bell, gan ymateb i unrhyw bryderon.

Mae ymweliadau ysbyty'n cael eu trefnu os fydd angen triniaethau neu ymgynghoriadau pellach.

'Dwi'n teimlo yn llawer mwy diogel'

Doedd gan Evan Dobson, 69 oed o'r Bala, ddim syniad ei fod wedi cael trawiad ar y galon rai blynyddoedd yn ôl nes iddo gael ei sgrinio mewn ysbyty yn dilyn trafferthion anadlu a cherdded.

Fel claf afiechyd y galon sydd hefyd â phroblemau gyda'r arennau "sy'n anodd iawn i ddarganfod os ydy'n sefyllfa i'n gwaethygu", bu'n rhaid iddo deithio i apwyntiadau yn ysbytai Dolgellau, Tywyn ac Alltwen ger Porthmadog.

Bellach, ag yntau'n rhan o arbrawf 12 wythnos, mae'n dweud mai'r ap yw'r un "mwyaf gwerthfawr ar fy ffôn".

Disgrifiad o’r llun,

Evan Dobson o'r Bala yw un o'r cleifion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf

Dywedodd: "Dwi'm yn gorfod trafeilio i nunlle. Mae'r wybodaeth jest yn mynd lawr lein y ffôn.

"Dwi'n teimlo yn llawer mwy diogel bod 'na rywun profiadol yn goruchwylio. Hyd yn oed mynd i ffwrdd am wythnos o wylia' wythnos dwytha', mi es i â phopeth a llenwi'r ap yn ddyddiol union r'un fath oherwydd bo fi'n teimlo bod o'n bwysig i neud hynny."

Mae Mr Dobson yn cynghori cleifion eraill ag afiechydon y galon i ddefnyddio'r dechnoleg, beth bynnag eu hoedran.

"Peidiwch â bod ofn defnyddio'r ap. Does 'na'm byd gwaeth nag anwybyddu rwbath sydd yna i'n helpu ni, ac yn sicr mae yn fy helpu i."

'Arbed arian, amser a risg i gleifion'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ap yn galluogi Viki Jenkins i ymyrryd yn gynt os oes pryder yn codi ynghylch cyflwr claf

Mae'r cynllun yn adeiladu ar ddatblygiadau technoleg ddigidol ers dechrau'r pandemig, yn ôl Viki Jenkins, uwch ymarferydd nyrsio methiant y galon gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

"Mae hwn yn gyfle gwych i archwilio sut olwg fydd ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol," meddai.

"Mae Covid-19 wedi dangos i ni fod yn rhaid i ni groesawu arloesedd o'r math hwn."

Dywedodd bod yr ap yn "gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio" ac yn "atal pobl rhag gorfod cael triniaeth ysbyty" gan fod modd ymyrryd yn gynt i reoli a gwella cyflwr cleifion fel Mr Dobson.

"Mae'r ardal hon yn wledig iawn, mae yna lawer o deithio - i Mr Dobson mae'n rhaid gyrru am awr er mwyn dod i'm gweld i," meddai Ms Jenkins.

"Gyda Covid, mae'n golygu un apwyntiad wyneb-yn-wyneb yn llai felly mae'n arbed amser, arian a'r risg o gleifion yn mynd yn sâl ac yn gorfod mynd i'r ysbyty."