Gemau'r Gymanwlad: Efydd i Geraint Thomas ar ôl disgyn yn gynnar
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
![Geraint Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1412C/production/_126202228_gettyimages-1412887713.jpg)
Bu'n rhaid i Geraint Thomas fodloni ar fedal efydd ar ôl iddo ddisgyn yn gynnar yn y ras yn erbyn y cloc yng Ngemau'r Gymanwlad.
Roedd hi'n ymdrech arwrol gan y Cymro, wrth iddo geisio gwneud yr amser yn ôl wedi iddo ddisgyn o fewn ychydig funudau o ddechrau'r ras.
Rohan Dennis o Awstralia gipiodd y fedal aur, gyda'r Sais Fred Wright yn crafu heibio Thomas o ddwy eiliad i sicrhau'r arian.
Cyn y gemau fe ddywedodd Thomas mai'r ras yn erbyn y cloc oedd ei gyfle gorau am fedal.
Bydd hefyd yn cymryd rhan yn y ras ffordd ddydd Sul.
Mae Cymru wedi ennill 18 medal yng ngemau Birmingham hyd yma - pedair medal aur, pedair arian a 10 efydd.
![Geraint Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B733/production/_126199864_gettyimages-1412880499.jpg)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022