Bangladesh: Aelod arall o deulu o Gaerdydd wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 20 oed o Gaerdydd wedi marw ym Mangladesh - y trydydd aelod o'r un teulu i farw wedi achos posib o wenwyno.
Bu farw Samira Islam o gwmpas 08:30 amser y DU bore Gwener.
Bu farw ei thad 51 oed, Rafiqul, a'i brawd 16 oed, Mahiqul ar 26 Gorffennaf wrth gael eu cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol mewn fflat yn nwyrain y wlad.
Roedd y tri, ynghyd â gwraig a mab arall Mr Islam, ar wyliau yn ardal Osmaninagar, ger dinas Sylhet.
Bu'n rhaid i swyddogion heddlu dorri i mewn i'r fflat wedi i berthnasau godi pryderon ynghylch y teulu, a bu'n rhaid cludo'r pump ohonyn nhw i'r ysbyty.
Mae mam Ms Islam, Husnara, sy'n 45 oed, a'i brawd arall, Sadiqul, sy'n 24 oed, wedi gwella digon i adael yr ysbyty a rhoi datganiadau i'r heddlu.
Yn ôl swyddogion, mae Husnara a Sadiqul Islam wedi dweud wrthyn nhw bod yna eneradur trydanol diffygiol yn yr adeilad ble roedden nhw'n aros, oedd ond i'w ddefnyddio mewn argyfwng.
Mae Heddlu Bangladesh wedi dweud eu bod yn ymchwilio i'r posibilrwydd bod y teulu, o ardal Glan-yr-Afon Caerdydd, wedi cael eu gwenwyno gan garbon monocsid.
Yng Nghaerdydd mae aelodau o'r gymuned Fangladeshaidd yn dweud eu bod yn gweddïo dros y teulu.
Dywedodd Muhibur Islam o fosg Jalalia yng Nghaerdydd bod pobl yr ardal yn ei chael hi'n anodd dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.
"Roedd un neu ddau aelod o'r teulu oedd yma [yn y mosg]", meddai.
"Fe wnaethon ni weddïo dros y teulu ar ôl i ni glywed.
"Rydyn ni'n dal i drio deall beth sydd wedi digwydd. Mae mynd am wyliau cyffrous a byth dod yn ôl - mor drist."
Ychwanegodd bod y gymuned yn derbyn "rhywfaint o wybodaeth" gan deulu ym Mangladesh.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022