Gemma Frizelle yn ennill pumed medal aur i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gemma FrizelleFfynhonnell y llun, Paul Ellis/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Frizelle wedi ennill pumed medal aur Cymru o'r gemau yn Birmingham

Mae Cymru wedi sicrhau ei phumed medal aur o Gemau'r Gymanwlad yn dilyn llwyddiant yn y gymnasteg.

Enillodd Gemma Frizelle y brif wobr yn rownd derfynol yr 'hoop' yng nghystadleuaeth y gymnasteg rhythmig.

Yn cystadlu yn ei hail gemau, mae buddugoliaeth y ferch 24 oed dros Anna Sokolova o Cyprus yn golygu fod Cymru bellach wedi ennill 23 o fedalau.

Hefyd fore Sadwrn fe wnaeth Jake Dodd sicrhau medal efydd yn y cystadleuaeth bocsio 48kg-51kg i ddynion.

Methodd a sicrhau safle uwch ar y podiwm wedi iddo golli yn erbyn Kiaran MacDonald o Loegr yn y rownd gynderfynol.

Colli yn y rownd honno oedd hanes Owain Harris-Allen hefyd, gyda'i wrthwynebydd Abraham Mensah o Ghana yn parhau i rownd derfynol y categori pwysau bantam.

Serch hynny wnaeth y Cymro 18 oed dal lwyddo i sicrhau medal efydd iddo'i hun.

Medal efydd oedd tynged Garan Croft yn ogystal, wedi iddo golli yn rownd gynderfynol y categori 67kg-71kg i Aidan Walsh o Ogledd Iwerddon.

Ond fe fydd Ioan Croft, Taylor Bevan a Rosie Eccles yn cystadlu am yr aur neu arian yn eu categorïau hwythau yn dilyn buddugoliaethau ddydd Sadwrn.

Mae'r casgliad bellach yn cynnwys pum medal aur, pum arian ac 13 o rai efydd, gyda deuddydd o gystadlu ar ôl.

Pynciau cysylltiedig