Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Eastleigh
- Cyhoeddwyd
Gôl hwyr oedd achubiaeth Wrecsam wrth sicrhau triphwynt gwerthfawr ar ddiwrnod agoriadol y tymor.
Roedd Eastleigh wedi mynd ar y blaen wedi i gamgymeriad y golwr, Mark Howard, agor y drws i George Langston wedi 14 munud.
Ond Elliot Lee oedd arwr y Cae Ras gyda'i ddwy gôl - wedi 72 ac 85 munud - yn troi'r gêm ar ei phen.
Wnaeth Lee ond ymuno a'r chwarae gydag awr wedi mynd ar y cloc - ond roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy.