Medalau aur i Gymru ond siom i Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd
Ioan Croft yn gwireddu 'breuddwyd' gyda medal aur
Mae Cymru wedi sicrhau rhagor o fedalau aur yng Ngemau'r Gymanwlad ond bu'n ddiwrnod siomedig i'r beiciwr Geraint Thomas.
Fe enillodd Ioan Croft o Grymych fedal aur yn y bocsio nos Sul yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.
Fe wnaeth y chwaraewr tennis bwrdd Joshua Stacey a'r focswraig Rosie Eccles sicrhau dwy fedal aur wrth i'r Gemau ddod i derfyn.
I Geraint Thomas, fe ddaeth y cyfan i ben am byth iddo wrth gyhoeddi na fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad eto. Daeth ei sylwadau wedi iddo golli allan ar fedal yn y ras 160km.
![Ioan a Garan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1207D/production/_125335837_crofts.jpg)
Mae Ioan (chwith) wedi ennill medal aur a'i frawd Garan (ar y dde) wedi sicrhau medal efydd i Gymru
Fe gurodd Ioan Croft y bocsiwr o Zambia, Stephen Zimba, yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.
Cafodd ei frawd, Garan, lwyddiant ddydd Sadwrn pan enillodd fedal aur.
![Joshua Stacey ac Rosie Eccles](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9FC7/production/_126230904_collagemaker-07-aug-2022-12.53-pm.jpg)
Mae Joshua Stacey ac Rosie Eccles wedi sicrhau medalau aur i Gymru ar ddiwrnod olaf y gemau
Trechodd Stacey Lin Ma o Awstralia yn rownd derfynol dosbarth 8-10 y dynion.
Stacey, sy'n hannu o Gaerdydd, yw'r Cymro cyntaf erioed i fod yn bencampwr para tennis bwrdd.
Llwyddodd Eccles, sy'n 26 oed, hefyd i sicrhau'r aur yn dilyn buddugoliaeth dros Kaye Scott o Awstralia yn y categori 66kg-70kg.
Roedd yn berfformiad gwych gan Eccles, gan sicrhau'r fedal aur yn ail rownd yr ornest derfynol.
Hefyd yn y sgwâr bocsio fe enillodd Taylor Bevan fedal arian wedi iddo golli yn erbyn Sean Lazzerini o'r Alban.
Ond roedd hi'n agos, gyda thynged medal aur y categori 75kg-80kg yn mynd i'r beirniaid er i'r Cymro ennill y rownd gyntaf.
Wythfed i Geraint Thomas
Ond roedd 'na siom i'r seiclwr Geraint Thomas, a oedd wedi gobeithio gwella ar y fedal efydd a enillodd yng Ngemau'r Gymanwlad ddechrau'r wythnos.
![Geraint Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/68C7/production/_126232862_gettyimages-1413438078-2.jpg)
Daeth Geraint Thomas yn agos at fuddugoliaeth ddramatig yn y ras feicio drwy ymosod gyda 1.7km i fynd, ond cafodd ei ddal gyda'r llinell derfyn mewn golwg
Roedd Thomas, ynghyd â'r Cymry eraill Luke Rowe, Owain Doull a William Roberts, yn cystadlu yn y ras 160km.
Er gwaethaf ymdrech ddewr am y llinell, wedi cael ei dal yn ôl gan garfan o seiclwyr o Loegr yn ystod y ras, wythfed yr orffennodd wrth i Aaron Gate o Seland Newydd gipio'r fedal aur.
Wedi'r ras cadarnhaodd Thomas, sy'n 36 oed, na fyddai'n cystadlu yn y Gemau'r Gymanwlad nesaf yn Awstralia.
"Efallai wna i wisgo [crys Cymru] o gwmpas Caerdydd, ond dwi ddim yn mynd i gyrraedd Gemau Gymanwlad arall," dywedodd.
"Mae'n braf gorffen, wel gorffen yn waglaw. Fe roddais i bopeth oedd gen i. Dw i'n falch iawn o wisgo'r crys hwn am y tro olaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022